People supporting people
                    to take enterprising action
against climate change

FCFCG Wales - April Newsletter - Cylchlythyr Ebrill

FCFCG Wales - April Newsletter - Cylchlythyr Ebrill

Welcome to the April edition of our newsletter
Croeso i'r rhifyn Ebrill o ein cylchlythyr

Tyfu Pobl News

Farewell to Katie Jones, Wales Development Manager

The end of March saw the departure of Wales Development Manager, Katie Jones. You can read Katie's farewell message here. The Federation would like to thank Katie for all she has contributed our organisation, the projects we work with and the community growing movement in Wales.

Pembrokeshire Community Growing network Event, 7 June

This event will be an opportunity for those involved with community growing in Pembrokeshire to come together, find out what others are doing and share experiences. For more information and to book your place go to the events page.

"Back to the Land", 13 May, Wrexham

CLAS are excited to announce the first in a series of free, land based events. “Back to the Land” will cover different aspects of accessing and getting hold of land for community growing projects.  This free event will be an opportunity to learn more about accessing land, meeting like-minded people and hearing from the experts.  For more information and to book go to the FCFCG website.

Do you have land that you would like the community to use for growing? Do you own land that the local community grow on? Are you a group of people wanting to know how to go about obtaining land for community use?

The CLAS Cymru travel bursary could be what is required. 
The travel bursary allows knowledge sharing between all parties involved in community growing on land; from the landowner, to the community group and to related support agencies and other interested parties such as planners.  
Please contact wales@communitylandadvice.org.uk for more information.

Funding news

Do you have good quantities of products, produce or reliable services that you are looking for markets to sell to?  Over the coming months we will be exploring the process of bidding for public sector contracts and how it may work for consortia bids (i.e. a group of community organisations coming together to be able to share in the delivery of a contract) .  ‘Procurement’ is the purchase of works, goods or services from a third party supplier. This is a commercial transaction under a legally enforceable contract. The supplier is contractually obliged to deliver whatever it has been hired to do.

Each year the public sector in Wales buys a vast amount of goods and services from external sources - this is currently estimated at £5 billion plus per annum. This may include basic supplies to specialist services or paying contractors to provide services to customers on its behalf.  However only 45% of this money is spent in Wales. Welsh public sector bodies are being encouraged to spend more in Wales.

The tendering process is not easy but social enterprises are being encouraged to learn about what they need to consider in order to tender. Free training on “an introduction on how to tender” is available at locations throughout Wales.

The WCVA also has produced information sheets about contracts and tendering.

If you would like to have a chat about tendering please get in touch with katie.trent@farmgarden.org.uk  (NB: Katie generally works Tuesdays and Wednesdays)

Benefits for FCFCG Members

If you haven’t filled in your form to become a member of the Fed then you won’t know about our fantastic new discount seeds offer for FCFCG Members.

As part of our commitment to increase benefits for our members, the Federation of City Farms and Community Gardens has teamed up with Kings Seeds to offer some great discounts exclusive to FCFCG members.

Kings Seeds was established more than 125 years ago and is now the oldest independent wholesale horticultural seed merchant in the UK. The company is keen to support community farming and gardening and has agreed to offer substantial discounts on its normal prices. Currently there are two offers available:

Seeds Orders - A 45 percent discount promotion to FCFCG members on orders of seeds over £35. These are plain-packet seeds for use by the member group themselves. 

Seed Display Stands - A 50 percent discount on seed display stands, similar to those seen in garden centres. Members of FCFCG buy colourful, pictorial seed packets direct from Kings at half the recommended price and use an on-loan display stand to offer them for sale to customers.

There will also be further member only offers available soon, so if you aren’t already a member then do join us. Go to www.farmgarden.org.uk/join to download a membership form

General

Big Lunch 2014 - feeding community spirit

The Big Lunch is run by the Eden Project and funded by the Big Lottery and, since starting in 2009, thousands of Big Lunches have taken place across Wales and the rest of the UK.  The sixth annual Big Lunch takes place on Sunday 1st June 2014. Read more about how you can get involved ...

Jobs

Zero Waste are recruiting

Zero Waste are recruiting for an Events Manager and a Food and Drink Advisor. Click here for more information.

If you have a job or opportunity you would like to advertise here please email abigail@farmgarden.org.uk.

Mid Wales

Go to the Tyfu Pobl blog to read the latest news from Mid Wales and to find out about the wide range of fantastic events in your area including ....

A Year in the Polytunnel, 16 April Llandrindod Wells

Community Garden Design, 28 April 28 - 2 May, Llanfyllin

North Wales

Go to the Tyfu Pobl blog to read the latest news from North Wales and to find out about the wide range of fantastic events at community growing projects in your area including ....

Herbs for Beginners, 12 April, Bangor

Intensive beginner bee keeping weekend, 26 - 27 April, nr Bangor

A Year in the Polytunnel, 26 April, Bangor

South East Wales

Go to the Tyfu Pobl blog to read the latest news from South East Wales and to find out about the wide range of fantastic events at community growing projects in your area including ....

Build your own Build Your Own Keyhole Garden, 12 April, Cardiff

Living willow structures, 12 April, Cardiff

Introduction to Composting, 17 April, Torfaen

South West Wales

Go to the Tyfu Pobl blog to read the latest news from South West Wales and to find out about the wide range of fantastic events at community growing projects in your area including ....

Seed selection, 16 April, National Botanic Garden of Wales

Growing unusuals, 24 April, National Botanic Garden of Wales


Newyddion Tyfu Pobl

Ffarwel i Katie Jones, Rheolwr Datblygu Cymru

Ar ddiwedd mis Mawrth, gadawodd Rheolwr Datblygu Cymru, Katie Jones. Gallwch ddarllen neges ffarwel Katie yma. Hoffai’r Ffederasiwn ddiolch i Katie am ei chyfraniad i’n sefydliad, y prosiectau rydym yn gweithio gyda nhw a’r mudiad tyfu cymunedol yng Nghymru.

"Yn ôl i’r Tir", 13 Mai, Wrecsam

Mae CLAS wrth eu bodd yn cyhoeddi y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn seiliedig ar y tir. Bydd “Yn ôl i’r Tir” yn ymdrin ag agweddau gwahanol o gael mynediad at, a meddu ar dir ar gyfer prosiectau tyfu cymunedol. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn gyfle i ddysgu mwy am gael mynediad at dir, cyfarfod â phobl o’r un meddylfryd, a chlywed gan arbenigwyr. I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, ewch i wefan FCFCG.

Oes gennych chi dir yr hoffech i’r gymuned ei ddefnyddio i dyfu? Ydych chi’n berchen ar dir y mae’r gymuned leol yn tyfu arno? Ydych chi’n grŵp o bobl sydd eisiau gwybod sut i feddu ar dir at ddefnydd cymunedol?

Efallai mai bwrsari teithio CLAS Cymru sydd ei angen. 
Mae’r bwrsari teithio yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu rhwng pob parti sy’n gysylltiedig â thyfu cymunedol ar dir; o berchennog y tir, i’r grŵp cymunedol, asiantaethau cymorth cysylltiedig a buddgyfranogwyr eraill, fel cynllunwyr.  
Cysylltwch â wales@communitylandadvice.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Newyddion am Godi Arian

Oes gennych chi lawer o gynhyrchion, cynnyrch neu wasanaethau dibynadwy rydych yn chwilio am farchnadoedd i’w gwerthu nhw iddyn nhw? Dros y misoedd nesaf, byddwn yn archwilio’r broses o wneud cynigion am gontractau’r sector cyhoeddus, a sut gall weithio ar gyfer cynigion consortia (h.y. grŵp o sefydliadau cymunedol yn dod at ei gilydd er mwyn iddynt allu rhannu cyflwyno contract).  ‘Caffael’ yw prynu gwaith, nwyddau neu wasanaethau gan gyflenwr trydydd parti. Mae hwn yn drafodyn masnachol o dan gontract y gellir ei orfodi’n gyfreithiol. Mae’r cyflenwr yn rhwym dan gontract i gyflwyno beth bynnag y mae wedi cael ei gyflogi i’w wneud.

Bob blwyddyn, mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn prynu swm helaeth o nwyddau a gwasanaethau gan ffynonellau allanol – amcangyfrifir bod hyn yn £5 biliwn a mwy y flwyddyn ar hyn o bryd. Gall hyn gynnwys cyflenwadau sylfaenol i wasanaethau arbenigol neu dalu contractwyr i ddarparu gwasanaethau ar ei ran. Fodd bynnag, dim ond 45% o’r swm hwn sy’n cael ei wario yng Nghymru. Mae cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hannog i wario mwy yng Nghymru.

Nid yw’r broses tendro yn hawdd ond anogir mentrau cymdeithasol i ddysgu beth sydd angen iddynt ei ystyried er mwyn cyflwyno tendr. Mae hyfforddiant rhad ac am ddim ar “cyflwyniad i sut i dendro” ar gael mewn lleoliadau ledled Cymru.

Mae CGGC wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth am gontractau a thendro.

Os hoffech gael sgwrs am dendro, cysylltwch â katie.trent@farmgarden.org.uk  (O.N.: Mae Katie’n gweithio ar ddydd Mawrth a dydd Mercher fel arfer).

Buddion i Aelodau FCFCG

Os nad ydych chi wedi llenwi eich ffurflen i fod yn aelod o’r Ffederasiwn, yna ni fyddwch ymwybodol o’n cynnig newydd am hadau am bris gostyngedig ar gyfer Aelodau FCFCG.

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu buddion i’n haelodau, mae’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol wedi uno â Kings Seeds i gynnig rhai gostyngiadau gwych i aelodau FCFCG.

Sefydlwyd Kings Seeds dros 125 o flynyddoedd yn ôl, a dyma’r masnachwr hadau garddwriaethol cyfanwerthol annibynnol hynaf yn y DU erbyn hyn. Mae’r cwmni’n awyddus i gefnogi ffermio a garddio cymunedol ac mae wedi cytuno i gynnig gostyngiadau sylweddol ar ei brisiau arferol. Mae dau gynnig ar gael ar hyn o bryd:

Archebion Hadau – Gostyngiad o 45% i aelodau FCFCG ar archebion hadau dros £35. Mae’r rhain yn hadau pecyn plaen i’w defnyddio gan y grŵp sy’n aelod eu hunain. 

Standiau Arddangos Hadau – Gostyngiad o 50% ar standiau arddangos hadau, tebyg i’r rheiny a welir mewn canolfannau garddio. Gall Aelodau FCFCG brynu pecynnau hadau lliwgar, darluniol yn uniongyrchol oddi wrth Kings am hanner y pris argymelledig a defnyddio stand arddangos ar fenthyg er mwyn eu gwerthu nhw i gwsmeriaid.  

Bydd mwy o gynigion i aelodau’n unig ar gael yn fuan, felly os nad ydych eisoes yn aelod, ymunwch â ni. Ewch i www.farmgarden.org.uk/join i lawrlwytho ffurflen aelodaeth
Cyffredinol

Cinio Mawr 2014 – bwydo ysbryd y gymuned

Cynhelir y Cinio Mawr gan Brosiect Eden a chaiff ei ariannu gan y Loteri Fawr. Ers cael ei sefydlu yn 2009, mae miloedd o Giniawau Mawr wedi cael eu cynnal ledled Cymru a gweddill y DU. Cynhelir y chweched Cinio Mawr ar ddydd Sul 1 Mehefin 2014. Darllenwch fwy am sut y gallwch chi gymryd rhan...

Swyddi

Diwastraff yn recriwtio

Mae Diwastraff yn recriwtio Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgynghorydd Bwyd a Diod. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Os oes gennych swydd neu gyfle yr hoffech ei hysbysebu yma, anfonwch neges e-bost at abigail@farmgarden.org.uk.

Canolbarth Cymru

Ewch i flog Tyfu Pobl i ddarllen y newyddion diweddaraf o Ganolbarth Cymru a chael gwybodaeth am y dewis eang o ddigwyddiadau gwych yn eich ardal yn cynnwys ....

Blwyddyn mewn Twnnel Polythen, 16 Ebrill, Llandrindod

Dylunio Gardd Gymunedol, 28 Ebrill - 2 Mai, Llanfyllin

Gogledd Cymru

Ewch i flog Tyfu Pobl i ddarllen y newyddion diweddaraf o Ogledd Cymru a chael gwybodaeth am y dewis eang o ddigwyddiadau gwych yn eich ardal mewn prosiectau tyfu cymunedol yn eich ardal yn cynnwys ....

Perlysiau i Ddechreuwyr, 12 Ebrill, Bangor

Penwythnos ddwys cadw gwenyn i ddechreuwyr, 26 - 27 Ebrill, ger Bangor

Blwyddyn mewn Twnnel Polythen, 26 Ebrill, Bangor

De Ddwyrain Cymru

Ewch i flog Tyfu Pobl i ddarllen y newyddion diweddaraf o Dde Ddwyrain Cymru a chael gwybodaeth am y dewis eang o ddigwyddiadau gwych yn eich ardal mewn prosiectau tyfu cymunedol yn eich ardal yn cynnwys ....

Adeiladu eich Gardd Twll Clo eich Hun, 12 Ebrill, Caerdydd

Strwythurau helyg byw, 12 Ebrill, Caerdydd

Cyflwyniad i Gompostio, 17 Ebrill, Torfaen

De Orllewin Cymru

Ewch i flog Tyfu Pobl i ddarllen y newyddion diweddaraf o Dde Orllewin Cymru a chael gwybodaeth am y dewis eang o ddigwyddiadau gwych yn eich ardal mewn prosiectau tyfu cymunedol yn eich ardal yn cynnwys ....

Dethol hadau, 16 Ebrill, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

 

Tyfu pethau anarferol, 24 Ebrill, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru





« Back to News & Events