Un o’r pethau diddorol am fod yn rhan o’r criw Adfywio Cymru ydy cael bod yn dyst i sgil effaith y prosiect. Ymddangosai fel bod ‘Adfywiad bach’… yn mynd yn bell iawn.
Mae esiampl wych o hyn i’w weld yn fy ardal i yn Faendy, Casnewydd, ble mae fy mhrosiectau Adfywio wedi plethu rhywsut, gydag un prosiect yn arwain at un arall. Rwy’n tybio bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn trefi eraill ledled Cymru?
Cefnogais grŵp y Woodlanders yn ôl yn 2015. Roeddent yn awyddus i blannu perllan mewn parc yn y ddinas ar ôl derbyn trwydded i weithio yno gan y cyngor. Chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae’r coed yn blaguro (yn y Gwanwyn o leiaf!). Mae’r parc yn dathlu Diwrnod Afalau bob blwyddyn ac mae oedolion a phlant yr ysgolion lleol yn ymweld yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau bywyd pryfed a phlannu.
Bu rhai o’r bobl o’r Woodlanders yn rhan o gynnal Llyfrgell Gymunedol Maendy a dyna gychwyn prosiect arall wedi’i gefnogi gan Adfywio, Bwyd Bendigedig Maendy. Cafwyd cymorth ysbrydoledig gan y mentor Tom O’Kane a chyn hir trodd darnau gwyrdd gwasgaredig o laswellt mwdlyd yn ardal oedd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau gan harddu lle oedd yn adnabyddus am ei goncrid a’i darmac!
Yn 2017 cychwynnwyd dau brosiect arall yn Ysgol Gynradd Maendy a Chanolfan Gymunedol Eveswell. Y bwriad oedd creu gwelyau plannu uwch ar gyfer tyfu cymunedol. Trodd y grŵp Bwyd Bendigedig yn ‘Greening Maindee’ a phenderfynwyd tynnu’r holl ddarnau tyfu at ei gilydd a chychwyn prosiect ‘Bwyd am Oes’, yn ymuno Llyfrgell Maendy gyda Thŷ Cymunedol Eton Road, Canolfan Gymunedol Eveswell ac Ysgol Gynradd Maendy. Roedd momentwm ganddyn nhw nawr!
Yn sydyn iawn, roedd yr holl brosiectau gwahanol yma yn gweithio â’i gilydd fel un fenter tyfu gymunedol mawr cyfunedig, yn denu amrywiaeth eang o wirfoddolwyr tyfu bwyd, yn rhannu’r cynnyrch allan ac yn coginio a bwyta â’i gilydd. Sylweddolon nhw fod ganddyn nhw’r pŵer i wneud pethau eu hunain, addasu a chreu partneriaethau fel oedd angen, gan ofyn am gymorth a chefnogaeth ar brydiau hefyd.
Yn y cyfnod yma roedd cynlluniau gan Gyngor Dinas Casnewydd i werthu Canolfan Gymunedol Eveswell, gyda’i dir eang, at bwrpas tai. Ond yn gynharach yn y flwyddyn, ar ôl gweld tir y ganolfan yn cael defnydd da gyda sawl gwely uwch yn cael ei blannu, perllan, a gardd glaw, bu newid ym mhenderfyniad y cyngor. Rydym yn obeithiol bydd y tir yn cael ei gadw ar gyfer tyfu awyr agored a gweithgareddau cymunedol. Yr uchelgais ydy creu canolfan astudio awyr agored gyda chyfleusterau dan do i gynnal sgyrsiau a thrafodaethau garddio.
Mae’r cydweithrediad ‘Bwyd am Oes’ wedi arwain at gais llwyddiannus i Gronfa Treftadaeth y Loteri i annog pobl o ddiwylliannau lleiafrifol i gymryd rhan mewn gweithgareddau natur. Mae cais i Gronfa Adfywio Gymunedol y DU yn golygu y gall maes parcio blêr droi’n barc gwyrdd cyn hir, gyda system draeniad cynaliadwy, ac mae oergell gymunedol yn agor yn y llyfrgell ar ôl y Nadolig i helpu ailgyfeirio bwyd fel nad yw’n mynd i’r sbwriel.
Yn deillio o hyn mae tîm Gwasanaethau Stryd y cyngor wedi bod yn helpu. Maent wedi bod yn gefnogol iawn yn paratoi darnau tir i blannu blodau gwyllt, yn dosbarthu bylbiau ac yn gweithio ar brosiect ar y cyd i ailsefydlu coed stryd.
Bellach mae yna synergedd gwych o sefydliadau statudol, elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghasnewydd yn gweithio â’i gilydd i greu dinas wyrddach, ac mae llawer o hyn yn deillio o gefnogaeth wreiddiol Adfywio Cymru. Mae pobl sydd ag angerdd am gynaladwyedd a materion bioamrywiaeth wedi’u galluogi i weithredu eu hunain ac gallen nhw ond rannu’r angerdd yma gydag eraill, ac mae sgil effaith hyn yn tyfu ac yn tyfu o hyd.
Alison Starling
Comments are closed.