Croeso i Adfywio Cymru
Mae Adfywio Cymru’n rhaglen a arweinir gan ymarferwyr sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hol troed carbon, i addasu i ganlyniadau newid hinsawdd ac i fyw yn fwy cynaliadwy.
Mae’n defnyddio dull unigryw: gweithio trwy rwydwaith o Gydlynwyr Lleol, a chanddynt letywyr mewn sefydliadau trydydd sector lleol. Mae Adfywio Cymru’n creu cysylltiadau â grwpiau cymunedol gyda Mentoriaid Cymheiriaid –pobl brofiadol sy’n gallu rhoi cyngor, ysbrydoliaeth a gwybodaeth i alluogi iddynt gymryd eu camau cyntaf tuag at weithredu ar newid hinsawdd