Agor Drenewydd yw enw masnach Bywoliaeth Mynd yn Wyrdd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Cyf. Mae’r prosiect wedi arwyddo prydles 99 mlynedd yn ddiweddar, am 130 hectar o ofod gwyrdd o fewn canol y dref fel rhan o drosglwyddiad asedau rhwng Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn. Mae hwn yn ddatblygiad 5 mlynedd sydd wedi derbyn £1.1 miliwn o arian gan y Loteri Fawr gyda’r bwriad o greu ‘mynediad agored i ofodau gwyrdd a glas yn Y Drenewydd’.
Hyd yma, mae’r gwelliannau i’r gofodau gwyrdd yn y dref yn cynnwys codi ysbwriel yn y gymuned yn rheolaidd, rheoli glaswelltir ar gyfer y cyhoedd, buddiannau bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, plannu llawer o goed gydag aelodau’r cyhoedd a grwpiau ysgol, cynllunio trac BMX a beiciau mynydd newydd, braslun ar gyfer asedau gwyrdd a glas i’w defnyddio fel rhan o bresgripsiynu cymdeithasol lleol, a chynnig ar gyfer Lleoliad Glan yr Afon (caffi, gofod cyfarfod a gweithgareddau cymdeithasol). Mae’r gwaith yma yn ychwanegu at y cynllun ehangach o gyflwyno’r Drenewydd fel ‘lleoliad’ ar gyfer twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru a thyfiant economaidd newydd yn yr ardal.
Cafodd Mick Brown, o Gronfa Bancio Gymunedol Robert Owen cyfagos, a Chyfarwyddwr Agor Drenewydd, syniad am brosiect i edrych ar glybiau ceir trydan a datrysiadau trafnidiaeth ranedig, i helpu lleddfu’r tlodi trafnidiaeth yn y rhan yma o Ogledd Powys. Cytunodd Agor Drenewydd i gynnal y prosiect, a galluogi gwaith datblygu ar gyfer modelau trafnidiaeth garbon isel ac amlfodd, gan ddefnyddio clybiau ceir i gysylltu pobl leol gyda llinellau trên, a chryfhau cynlluniau trafnidiaeth gymunedol. Cyflwynwyd cais am arian i gynllun ariannu lleol Arwain, i gynnwys Swyddog Prosiect i gydlynu.
Yn y cyfamser, cofrestrodd Agor Drenewydd gydag Adfywio Cymru i gychwyn ymchwil farchnad, i annog partïon gwahanol i siarad â’i gilydd, ac i gynllunio teithio carbon isel amgen. Mae Andrew Capel yn fentor Adfywio Cymru gyda chysylltiadau i’r grŵp – roedd yn hapus i rannu ei brofiad a’i wybodaeth am redeg clwb ceir yn Llanidloes ers 12 mlynedd a chyflawnodd ymchwil i gynigion trafnidiaeth leol.
Roedd gan Andrew hyn i ddweud am ei ymchwil: “Roedd cynnal yr ymchwil yn ddiddorol wrth i mi ddysgu mwy am y ffordd mae ein cynllun galw-am-reid lleol wedi cael ei sefydlu, a’r hyn mae wedi’i gyflawni pan ddaw at gefnogaeth y gymuned at drafnidiaeth. Dysgais hefyd am yr hyn sydd yn eu hysgogi a’r ffordd maent yn ymdrin â phrosiectau posib y dyfodol. Fel rhan o’r ymchwil i’r posibilrwydd o wasanaeth tacsi cerbydau trydan, cysylltais ag adran trwyddedu cyngor Sir Powys am eglurhad o’r gofynion cyfreithiol. Roeddwn yn hapus iawn gyda’r cymorth cafwyd. Y prif rwystr i wasanaeth tacsi cerbydau trydan a phobl yn cydio mewn cerbydau trydan, ydy’r diffyg pwyntiau gwefru yng Nghanolbarth Cymru, a Llanidloes yn benodol.”
Aeth Agor Drenewydd yn ei flaen i dderbyn yr arian Arwain i gychwyn gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan a chlybiau ceir yn y Trallwng, y Drenewydd a Machynlleth.
Roedd Adfywio Cymru yn gallu cynnig cefnogaeth i ddigwyddiad rhanbarthol yn llunio modelau trafnidiaeth garbon isel gydag amrywiaeth o bartneriaid, mewn un lle. Agor Drenewydd oedd yn cynnal y digwyddiad yma ar yr 2il o Orffennaf yn Theatr Hafren, Y Drenewydd, gyda 30 yn mynychu, gan gynnwys arloeswyr carbon isel, trafnidiaeth gymunedol, clybiau ceir, Cyngor Sir Powys, trigolion sydd â diddordeb, cwmnïau budd cymunedol lleol, busnesau lleol a’n rhwydwaith ynni rhanbarthol, SP Energy.
Roedd gan y mynychwyr 5 model i’w lunio ar y diwrnod, felly roedd rhaid i bawb weithio’n galed am eu cinio! Roedd y modelau yn cynnwys:
- cynllun rhannu lifft yn nhref Maldwyn
- cynllun tacsi cerbyd trydan yn ardaloedd Y Drenewydd a Llanidloes, gan gynnwys rhagweld llif arian
- strategaeth marchnata teithio carbon isel yng Ngogledd Powys
- dull effeithiol ar gyfer trafnidiaeth gymunedol i ddefnyddio cerbydau trydan o glybiau ceir lleol i roi hwb cynhwysedd
- map o leoliadau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y rhan yma o Ganolbarth Cymru
Yn dilyn y gweithdy, daeth dau fynychwr ymlaen gyda’r bwriad o lansio menter gymdeithasol i gychwyn gwasanaeth tacsi cerbydau trydan yn ardal y Drenewydd – gyda rhannu siwrnai yn un o’r pwyntiau gwerthu unigryw! Mae Agor Drenewydd bellach yn gweithio gyda’r fenter gymdeithasol newydd yma i helpu cyflawni’r prosiect Arwain yma.
Dywedodd Richard Burrows, peiriannydd gwres ac ymgyrchydd cerbydau trydan blaenllaw o’r Drenewydd:
“Fel busnes bach yng Nghymru gyda diddordeb mewn trafnidiaeth allyriadau sero, mae Adfywio Cymru wedi’n helpu i gyfarfod y bobl allweddol er mwyn siapio syniadau busnes cymdeithasol ein hunain ymhellach. Rhaid rhoi’r diolch am hyn yn bennaf i’r cyfleoedd rhwydweithio a’r gefnogaeth derbyniwyd yn y gweithdy cerbydau trydan yn y Drenewydd. Er mod i wedi bod yn ymgyrchu am dros 3 blynedd am rwydwaith gwefru cerbydau trydan, nid oeddwn yn ymwybodol bod yna bobl leol eraill yn ceisio cyflawni uchelgeisiau tebyg. Diolch i’r syniadau rhanedig yma a phartneriaethau cydweithiol y dyfodol, bellach bydd ein menter yn siŵr o ffynnu ac felly’n rhoi hwb i’r asiantaethau lleol eraill i gyrraedd eu huchelgeisiau teithio carbon isel ym Mhowys.”
Dyma ddiweddariad cyffrous am ddatblygiad y prosiect UPDATE Low Carbon Transport Project Open Newtown- Aug2020 CYM
Comments are closed.