Mae Adfywio Cymru’n rhaglen a arweinir gan ymarferwyr sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hol troed carbon, i addasu i ganlyniadau newid hinsawdd ac i fyw yn fwy cynaliadwy. Mae’n defnyddio dull unigryw: gweithio trwy rwydwaith o Gydlynwyr Lleol, a chanddynt letywyr mewn sefydliadau trydydd sector lleol. Mae Adfywio Cymru’n creu cysylltiadau â grwpiau cymunedol gyda Mentoriaid Cymheiriaid – pobl brofiadol sy’n gallu rhoi cyngor, ysbrydoliaeth a gwybodaeth i alluogi iddynt gymryd eu camau cyntaf tuag at weithredu ar newid hinsawdd.
Sefydlwyd a chefnogir Adfywio Cymru gan grŵp o sefydliadau a chanddynt hanes hir o waith datblygu cymunedol a gweithredu ar newid hinsawdd, a chaiff ei redeg gan dîm bach yng Nghymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru. Caiff ei ariannu gan y rhaglen Camau Cynaliadwy a gyflenwir trwy Gronfa’r Loteri Fawr