Mae Adfywio Cymru yn cysylltu cymunedau gyda mentoriaid cymheiriaid sy’n barod i rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau er mwyn ysbrydoli, cefnogi a galluogi eraill i gymryd camau tuag at gweithredu ar newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol.
Ers 2012 mae Adfywio Cymru wedi helpu cannoedd o gymunedau ar draws Cymru i weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd, er enghraifft trwy ddatblygu adnoddau ynni cynaliadwy lleol, cychwyn clybiau bwyd a phrosiectau tyfu, gwneud tir yn fwy cynaliadwy ac adeiladau’n fwy ynni effeithlon, sefydlu mentrau teithio cynaliadwy, sefydlu mentrau a berchnogir gan y gymuned, ac ymgysylltu ysgolion â gweithredu ar newid hinsawdd.
Mae Adfywio Cymru wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran cyrraedd grwpiau y tu hwnt i’r sector amgylcheddol ac ysgogi mwy o’r ‘bobl anarferol’ i weithredu ar y materion yma. Yn fwy na dim, nod y rhaglen yw cymorth cymar i gymar i ysgogi gweithredu ar lefel gymunedol.
Mae’r rhaglen yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Bydd grwpiau cymunedol yn ymgysylltu â’r rheiny y maent wedi teithio ar hyd yr un llwybr a byddant yn dysgu gorau ganddynt – dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gymorth cymar i gymar.
- Caiff y rhaglen ei dosbarthu ledled Cymru – gan adeiladu ar brofiad a gwybodaeth rhwydweithiau presennol.
- Mae wedi’i harwain gan y gymuned ac yn grymusol – gan gefnogi anghenion a dyheadau cymunedau i wneud newidiadau hiroes trwy eu hymdrechion eu hunain.
- Mae’r rhaglen yn ei hanfod yn gost-effeithiol ac yn gefnogol o’r trydydd sector oherwydd caiff sefydliadau’r mentoriaid cymheiriaid a’r cydlynwyr eu talu am y gwaith y maent yn ei gyflawni.