Cychwynnodd y symudiad Bwyd Bendigedig (Incredible Edible) 10 mlynedd yn ôl yn Todmorden, Gorllewin Swydd Efrog, gyda’r bwriad o dyfu bwyd i’w rannu a rhoi mynediad i fwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol! Dan arweiniad parhaol un o’i sefydlwyr gwreiddiol, Mary Clear, mae’r prosiect wedi dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Mae’n gweithredu heb unrhyw arian cyhoeddus ac nid yw staff yn derbyn cyflog, gan arddangos adeiladu cymunedol radicalaidd ar waith.
Yn fis Chwefror 2016 llwyddodd y symudiad cynaliadwy yma i ysbrydoli grŵp o 3 o wirfoddolwyr o fferm organig CSA (amaeth a gefnogir gan y gymuned) lleol, a benderfynodd lansio Bwyd Bendigedig Sir Gaerfyrddin.
“Mae prosiectau tyfu yn gallu cychwyn sgyrsiau wrth ymholi o ble daw ein bwyd. Mewn cyfnod pan mae diogelwch bwyd yn hollbwysig, mae tyfu cynnyrch eich hun yn gynyddol bwysig i greu cymunedau gwydn.”
Cysylltodd y grŵp â Adfywio Cymru i chwilio am gymorth i ddatblygu ei gyfansoddiad. Cefnogodd Roxanne Treacy o Adfywio Cymru gyda’r camau cyntaf, yn rhoi help llaw i ddrafftio a datblygu cyfansoddiad. Roedd y cyfansoddiad hwn yn gymorth iddynt i ffurfioli’r sefydliad fel eu bod yn gallu gwneud cais am gyfrif banc a chyllid. Maent wedi mynd o nerth i nerth ers hyn, yn cydweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau, ysgolion, colegau a chynghorau lleol i sefydlu a chefnogi prosiectau wedi’u rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.
“Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant gyda’r gwirfoddolwyr yn creu gofodau tyfu eu hunain mewn mannau cyhoeddus oedd yn derbyn dim sylw cynt. Mae aelodau’r gymuned, sydd â diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud, wedi dechrau ymuno gyda ni yn dysgu sut i dyfu bwyd eu hunain. Yn aml mae’r bobl yma yn dychwelyd i wirfoddoli i gadw’r gwlâu tyfu i edrych yn hyfryd.”
I gadw momentwm y symudiad yn y gymuned maent bellach yn cynnal digwyddiadau rheolaidd fel cyfnewidfa hadau a phlanhigion a gweithdai ar ymarferion cynaliadwy. Mae’r rhain i gyd yn ddigwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb sydd eisiau mynychu. Maent hefyd yn cefnogi clwb garddio a dosbarthiadau coginio, sydd yn cynnwys bwyd eu hunain wedi’i dyfu yn y gerddi. Mewn cyfnod o ddim ond blwyddyn a hanner mae sgil-effaith y symudiad hwn wedi bod yn anhygoel, yn cydweithio gyda’r gymuned yn ei chyfanrwydd.
I alluogi’r prosiectau yma, mae’r grŵp wedi codi arian eu hunain gan werthu’r planhigion sydd yn cael ei dyfu. Maent hefyd wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn llawer o gyfraniadau gan fusnesau, sefydliadu, grwpiau cymunedol ac unigolion. Daeth y symudiad yn llawer mwy amlwg yn llygaid y cyhoedd yn dilyn eu cynhadledd yn 2017, ac maent bellach wedi ceisio mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys Britain in Bloom.
Enwebwyd Bwyd Bendigedig Sir Gaerfyrddin am wobr Adfywio Cymru – Cydweithio Cymunedol Orau, o ganlyniad cefnogaeth barhaus y gymuned tuag at y symudiad yma. Enillwyd gwobr ariannol o £1,000 a chefnogaeth Mentora Cyfoed ychwanegol.
Yn ddiweddar maent wedi bod yn canolbwyntio ar gynnal yr holl brosiectau presennol a thyfu’r nifer o wirfoddolwyr ac aelodau’r pwyllgor, yn ogystal â chysylltu’r holl brosiectau eraill sy’n tyfu ar gyfryngau cymdeithasol fel y gallant helpu a chefnogi’i gilydd.
Yn edrych tua’r dyfodol, mae’r grŵp yn bwriadu tyfu mwy a mwy o brosiectau dros Sir Gaerfyrddin ac yn ceisio codi arian i greu arwyddion addysgiadol ar gyfer y gwlâu tyfu. Hoffant drefnu teithiau i ymweld â phrosiectau cynaliadwy eraill i ysbrydoli’r gwirfoddolwyr am yr hyn sydd yn bosib ac i greu Llwybr Gwerdd o amgylch Pen-bre a Phorth Tywyn.
Gellir dilyn eu gweithgareddau diweddaraf ar Facebook yma.
Comments are closed.