Swyddog Gweithrediadau a Throsglwyddiad
Roeddwn yn rhan o sîn fwyd lleol Machynlleth am sawl blwyddyn cyn ymuno gydag Adfywio yn haf 2019. Roeddwn yn tyfu ac yn gwerthu llysiau drwy gynllun bocs-llysiau cydweithredol ac yn cydlynu’r prosiect cymunedol Edible Mach Maethlon sydd yn cynyddu gwydnwch a sgiliau tyfu a choginio bwyd.
Rwyf yn gyfarwyddwr gwirfoddol Mach Maethlon, sydd yn goruchwilio’r ddau brosiect yma ac un arall sydd yn datblygu’r farchnad ar gyfer bwyd lleol a hyfforddi rhai sydd yn newydd i arddwriaeth. Rwyf yn falch iawn o fyw yn y dref gyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd a threfnwyd bore coffi hinsawdd Extinction Rebellion yn fis Ionawr, cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd i rannu syniadau am sut i gael i’r afael ar newid hinsawdd mewn cyd-destun lleol – mynychodd dros 100 o bobl!
Rwyf hefyd yn ychydig o dechnolegydd, wedi gweithio 14 mlynedd yn y sector meddalwedd ffonau clyfar, fel rhaglennydd i gychwyn ac yna fel rheolwr sawl prosiect i drosglwyddo’r meddalwedd ar gyfer ffonau newydd, yn aml rhwng cwmnïoedd partneriaeth fel Skype a 3.
Mae’n gyffrous cael ymuno gydag Adfywio yn y cyfnod allweddol yma wrth i’r cyhoedd ddod yn fwy ymwybodol bod newid hinsawdd yn fater brys a darganfod bod yna bethau gallem gyflawni â’n gilydd i wneud gwahaniaeth.
Comments are closed.