Mae Canolfan Dysgu Fferm Ofal Clynfyw yn Gwmni Buddiant Cymunedol ym Moncath, Sir Benfro. Mae pobl sydd wedi’u heithrio o’r gymuned am ryw reswm yn gallu ymweld â’r Fferm. Mae’n cynnig darpariaeth gwasanaeth dydd i bobl sydd ag anawsterau dysgu a grwpiau bregus eraill. Mae ymwelwyr yn gweithio ar brosiectau o’r cychwyn i’r diwedd gan ddysgu sgiliau newydd, gyda chanlyniad positif. Mae’r fferm yn cael ei ddefnyddio a’i redeg gan y bobl sydd yn aros yn y bythynnod a’r bobl leol sydd yn dod yno’n ddyddiol. Fel rhan o’r gefnogaeth, maent yn darparu cludiant i gyfranogwyr o ardaloedd lleol, gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan a Hwlffordd. Roedd criw Fferm Ofal Clynfyw yn awyddus i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon ond ddim yn sicr sut i wneud hynny.
“Mae gan bawb fwriad a hawl i fod yn rhan o’u cymuned, dylai pobl ddewis ble hoffant fod a’r hyn maen nhw eisiau gwneud.”
Yn 2014 aeth Daniel Blackburn, Cydlynydd Adfywio, i gyfarfod gyda Fferm Ofal Clynfyw. Cynhaliwyd arolwg rhychwantu o’r eiddo a’r sefydliad i weld pa fath o brosiectau fydda o ddiddordeb i’r grŵp. Canfuwyd bod generadur hydro yn bresennol a gyda’i gilydd lluniwyd Cynllun Gweithredu i drawsffurfio hwn i greu trydan gellir ei ddefnyddio. Gyda gwybodaeth eang o eneraduron hydro, rhoddwyd y dasg o werthuso posibilrwydd yr opsiwn yma i’r Mentor Adfywio Chris Blake. Rhoddwyd help i Chris greu’r adroddiad gan Daniel a’r grŵp wrth gasglu’r data ar y safle. Datgelodd ddadansoddiad Chris mai ychydig iawn o adnodd hydro oedd yna ar gyfer y safle yma.
O ganlyniad i hyn, penderfynodd y grŵp i beidio dilyn y llwybr yma ac edrych ar opsiynau prosiect ynni gwynt yn lle hynny. Camodd Dan McCallum i’r rôl o Fentor Cyfoed a darparodd gyngor ar ynni gwynt ac effeithlonrwydd ynni ar gyfer cyfleusterau’r Fferm Ofal a chyngor croesffrwythloni fel arall. Cynhyrchodd y mentor adroddiad cynhwysfawr a gafodd ei basio ymlaen i Ynni’r Fro fu’n darparu cefnogaeth ychwanegol i ddilyn y syniad o gychwyn prosiect gwynt cymunedol. Yn anffodus, penderfynwyd nad oedd posib gwneud hyn gan nad oedd digon o wynt.
Y cyngor croesffrwythloni cafwyd oedd annog y Fferm Ofal i wneud cyswllt gyda Lloriau Greenstream, cwmni buddiant cymunedol lleol sydd yn ailgylchu carpedi hen i deils carped gellir eu hailddefnyddio. Mae Clynfyw bellach yn asiant i Loriau Greenstream yn eu hardal. Dechreuodd Clynfyw weithio gyda chymdeithas tai lleol gyda 1,600 o eiddo o fewn 30 milltir o’r Fferm Ofal, gan gychwyn cyflenwi teils carpedi ailgylchu Lloriau Greenstream ar gyfer yr eiddo yn 2015. Mae’r teils mewn cyflwr da, yn hawdd i’w gosod ac nid oes angen isgarped fel sydd gyda charped arferol. Mae hwn yn esiampl wych o economi cylchol ble mae cynhyrchion gwastraff yn cael eu gweddnewid i rywbeth gwerthfawr. Casglodd Clynfyw tua 20 paled o deils carped a helpu i ail-garpedu nifer fechan o adeiladau, ond ni thyfodd y prosiect gan fod y frwydr o gael y cymdeithasau tai i weithio gyda nhw yn ormod. Mae’r prosiect yma yn gorffwys ar hyn o bryd yn barod i gael ei hadfywio os/pan ddaw’r amser.
Cofrestrodd Jim Bowen o Fferm Ofal Clynfyw fel Mentor Cyfoed Adfywio ac mae’n parhau i fod yn fentor gweithgar hyd heddiw. Trwy adfywio mae Jim yn rhannu ei brofiad ffermio a sut i sefydlu a chynnal menter gymdeithasol gydag eraill. Yn fis Tachwedd 2015 cefnogodd Jim yr Ecoshop yng Ngheredigion i: ‘Wneud yr Ecoshop yn fwy deniadol, i gyrraedd mwy o bobl, gwella cyhoeddusrwydd a chwilio am ffrydiau cyllido newydd.’
Defnyddiodd Jim ddull sensitif, ymchwiliol i gasglu cymaint o wybodaeth am y siop ag y gallai (gwnaeth arolwg ar-lein anhysbys hyd yn oed!) cyn cynnig awgrymiadau i’r grŵp. Mae’r canlyniadau tymor hir wedi gweld sawl newid i systemau, polisïau a gweithdrefnau’r Ecoshop, yn rhoi mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd yn y tymor hir. Gyda 20 mlynedd o brofiad yn sefydlu a rhedeg fferm ofal a CIC, ysgrifennodd Jim lyfr: ‘Care Farming for Beginners’ – llawlyfr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cychwyn menter debyg.
Yn ôl yn Fferm Ofal Clynfyw ar gychwyn 2018, teimlai’r grŵp y gallant wneud mwy i leihau eu hôl troed carbon a chawsant gyfarfod gyda Jane O’Brien, Cydlynydd Adfywio. Trafodwyd y potensial o gynnal peilot car trydan, fydda’n cymryd lle’r car peiriant tanio ar gyfer y siwrne dychweliad i Lanbedr Pont Steffan (taith 60 milltir). Byddai defnyddio car trydan yn lleihau ôl troed carbon Clynfyw ac yn arbed costau petrol. Bydd Clynfyw, gyda’i rwydwaith mawr o gysylltiadau yn y gymuned leol a thu hwnt, hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o gerbydau trydan amgen. Bu Neil Lewis, Mentor Adfywio sydd yn wybodus iawn am gerbydau trydan, yn helpu’r grŵp i chwilio a darganfod y cerbyd trydan fwyaf perthnasol iddyn nhw ac ymchwilio’r posibilrwydd o osod pwynt gwefru ar gyfer y cerbyd. Byddai hyn yn lleihau’r amser gwefru yn sylweddol.
“Rydym wedi cwblhau’r cyfnod yma o’r prosiect gan brynu’r cerbyd trydan – Nissan Leaf – sydd yn berffaith ar gyfer yr hyn sydd ei angen. Edrychwn ymlaen at ei ddefnyddio dros y blynyddoedd nesaf, yn dadansoddi’r data ac yn prynu cerbydau tebyg ychwanegol mewn amser.
“Mae gennym 17 o baneli solar yn barod, ac rydym yn ymchwilio pa mor ymarferol yw gosod mwy i leihau ein biliau ymhellach a gwneud y fferm yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Ond dim ond cyfnod o drafod yw hyn yn bresennol.”
Ymwelwch â gwefan Clynfyw am wybodaeth bellach.
Holl luniau wedi’u cymryd o’r fferm.
Comments are closed.