Ar 27ain o Dachwedd yn ‘Gateway Hub’ yn Abergwaun, cawsom ddiwrnod o hwyl, chwerthin a rhannu mewn digwyddiad a defnwyd ar y cyd gyda Transition Bro Gwaun. Ond hyd yn oed cyn mynd i mewn i’r adeilad, roedd y murlun lliwgar, pwerus sydd wedi ei baentio gan blant ysgolion ag aelodau o grwpiau ieuenctid lleol yn amhosib i’w osgoi,a theimlodd fel cyhoeddiad o fwriad.
Roedd y lle yn llawn gyda phobl o Sir Benfro ac ymhellach yn eiddgar i ddarganfod sut i fod yn fwy creadigol wrth gyflwyno’r neges am newid hinsawdd.Felly, sesiwn ‘Theatr Fforwm’ oedd gyntaf (gyda Gill Dowsett a’i ‘ffrindiau’ yn arwain) – a oedd yn steil newydd o ddrama i lawer a ‘r peth da am hyn oedd y cyfle i ail-rhedeg y golygfeydd gyda ni yn cynnig deialog neu ffyrdd o actio gwahanol. Yna, soniodd Jasmine Dale am y llu o ddigwyddiadau a gymerodd lle dros yr haf yn yr ardal- gan gyfrif gwaith celf, sesiynnau ‘meic agored’, gweithdai gwastraff, dramau mewn wythnos tu allan a charnifal a llawer mwy.
Cyn cinio roedd amser agored a chyfle eto i ni gynnig pynciau i’w trafod mewn grwpiau. Ar or casglu’r wybodaeth daeth 5 thema / pwnc i’r golwg sef addysg a phobl ifanc, emosiynnau ynghlyn a newid hinsawdd, cysylltu a’r rhai sydd heb gysylltu, atebion technolegol, economiadd, cymdeithasol a gwleidyddol ac yn olaf cynhwysiad ac amrywiaeth.
Darparwyd cinio gan wirfoddolwyr Prosiect Oergell Gymunedol Abergawun ac Wdig (yn ogystal a chacennau drwy’r brynhawn!) Oes oedd unrhyw un yn dioddef o flinder ar ol cinio yna roedd slot canu cymunedol gan Ben Ferguson, meim ddoniol gan Owian Roach ac yna stori gan Deb Winter wedi dihuno pawb!
Wedi hynny, roedd modd dewis 2 allan o 5 o weithdai ac erbyn y diwedd roedd pawb yn teimlo wedi eu hysbrydoli. Dywedodd sawl un nad oeddent wedi bod mewn digwyddiad fel hyn o’r blaen ac roedd yn wahanol i dim ond eistedd a gwrando ar gyflwyniadau lu!

Mae Jasmine Dale wedi cynhyrchu adroddiad i rhannu gyda grwpiau eraill gan obeithio y bydd o gymorth wrth ddysgu sut i fynd gynnal gweithgareddau fwy creadigol wrth fynd i’r afael a newid hinsawdd. Gallwch ei weld (yn Saesneg yn unig) isod.
Comments are closed.