Darllenwch ein astudiaeth achos diweddaraf…
Ffurfiwyd y grŵp o ‘amaturiaid’ yma ym mis Awst 2019 gyda’r bwriad o brynu coedwig leol, yn ei amddiffyn o ddatblygiad adeiledig a gwella mynediad i’r gofod at ddefnydd hamddenol ac addysgiadol pobl leol.
Mae’r safle hwn, ar ochr y bryniau yn Graigwen, i’r Gogledd Orllewin o Bontypridd, oddeutu 5.6 acer gyda golygfeydd godidog dros y dref. Roedd y goedwig dan berchnogaeth breifat gyda bwriad i adeiladu ar y tir. Yn dilyn gwrthwynebiad cryf gan bobl leol, rhoddwyd y tir ar werth a chamodd person busnes lleol i’r adwy, un sydd yn cydymdeimlo â’r grŵp, a phrynu’r tir mewn ocsiwn er mwyn ei gadw o grafangau’r datblygwyr, nes bydd Cyfeillion Coedwig Graigwen yn gallu codi’r arian i brynu’r tir ar gyfer y gymuned.
Bwriad y grŵp ydy rheoli’r goedwig mewn dull fydd yn gwella ei ‘gyflwr’, tra hefyd yn gwella’r nifer a’r ansawdd o blanhigion bwytadwy gwyllt i bobl leol gael porthi, gan gynnig cyfleoedd addysgiadol i blant ysgol leol o bosib. Wrth i breswylwyr lleol ddod yn fwy o ran o ddefnyddio a chynnal y goedwig, maent yn cydnabod y dylai hyn gael effaith positif ar iechyd a llesiant, gan eu bod yn yr awyr agored ac ymysg natur.
Er mwyn cychwyn y broses o brynu’r goedwig, derbyniodd y grŵp gefnogaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac Interlink i sefydlu strwythur llywodraethu priodol ac endid cyfreithiol, gan ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol. Sefydlodd y grŵp dudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram i ddiweddaru pobl leol ac aelodau ar yr hyn sydd yn digwydd. Bellach mae ganddynt 300 o gefnogwyr ar Facebook.
Roedd angen i’r grŵp godi £20,000 i brynu’r tir gan y perchennog presennol ac felly cychwynnwyd cynllun cyfranddaliadau cymunedol, gyda chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru. Lansiwyd y cynnig cyfranddaliadau ar y 1af o Orffennaf 2019, a’i gau ar ddiwedd mis Awst 2019 gyda £16,000 yn cael ei godi gan tua 100 o gyfranwyr. Roedd y ffaith nad oedd mwy o unigolion wedi’u prynu cyfranddaliadau yn siom iddynt, ond roeddent wrth eu boddau bod Cyngor Tref Pontypridd wedi buddsoddi’r swm uchaf caniateir i’r cynllun. Gan fod y Cyngor Tref wedi dilyn y broses diwydrwydd dyladwy angenrheidiol i mewn i gyllid a llywodraethu’r grŵp, roedd yn rhoi hygrededd a hyder iddynt.
Derbyniodd Cyfeillion Coedwig Graigwen gefnogaeth Adfywio Cymru. Darparwyd mentor oedd yn gallu ymweld a rhoi arolwg safle a chynhyrchu adroddiad ar ei dibenion. Penodwyd Claire Turner fel mentor priodol ac aeth ar daith o amgylch y safle gydag aelodau’r grŵp, ble bu’n nodi manylion a pha fath o goed a llwyni oedd yn bresennol. Cynigodd awgrymiadau i’r grŵp ar sut i reoli’r goedwig yn well ar sail barhaus, sut i wella’r golau sy’n dod i mewn i’r gofod, ynghyd â syniadau i gynyddu bioamrywiaeth. Mewn un o’u hadroddiadau amlinellodd
y cyfleoedd i chwilota (foraging) a sut gall planhigion a dail cael eu defnyddio’n ‘feddygol’ ynghyd ag awgrymu’r budd mewn ymweld a choedwigoedd lleol eraill a Choleg Coppicewood er mwyn cael profiad o ddefnyddio offer a dysgu sgiliau newydd.
Dywedodd Claire “…Wnes i awgrymu gofalu am y goedwig drwy ddefnyddio prysgoedio (coppicing) sy’n ddull hynafol a chynaladwy. Gall hyn wella bioamrywiaeth y safle, cynyddu’r gwahanol mathau o goed yno a chreu coed ‘gwyrdd’ sy’n addas i’w troi mewn i gynyrch fel cedys, marwor, llefydd i eistedd a llwyau er enghraifft. Mae angen cynllunio gofalus ac awgrymais i’r grwp gael hyfforddiant a’i cysylltu nhw a Llais y Goedwig- efallai y gallent eu rhoi mewn cysylltiad a ‘phrysgoedwyr’ lleol a phrofiadol. Byddai defnyddio offer llaw fod yn ddefnyddiol iawn gan eu bod yn rhad, a, gyda chyfarwyddid ac ymarfer, bydd yn haws rheoli’r safle. Gall hefyd arwain at sgilio’r grwp ac efallai eu datblygu ymhellach.”
Fel rhan o’r ymchwil i mewn i ‘sut i’w wneud’ ymwelodd y grŵp â choedwig arall, wedi’i gynnal gan Croeso i’n Coedwig yn Nhreherbert. Roedd hyn yn arddangos ‘model’ a threfniant gwahanol iawn i’r hyn roedd Graigwen yn ei gynllunio. Mae Croeso i’n Coedwig yn gwmni cyfyngedig, ac yn creu amrywiaeth o gynnyrch o’r coed, gan gynnwys coed tân, yn ogystal â chael system trydan-dŵr wedi’i osod. Roedd y profiad yma yn un buddiol a diddorol i Graigwen, yn dysgu gan brosiect mor wahanol.
A nawr yn 2020, mae Cyfeillion Coedwig Graigwen wedi derbyn grant gan Gronfa Buddsoddi Gymunedol Trivallis, sydd wedi sicrhau’r arian i brynu’r goedwig. Megis cychwyn mae’r gwaith caled!
Maent yn bwriadu cychwyn wrth glirio’r mieri a’r ardaloedd eraill sydd wedi tyfu’n wyllt, yn ogystal â thwtio’n gyffredinol. Yna, maent yn bwriadu gwella rhai o’r llwybrau i’w gwneud yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn a choetsis, a’u cysylltu i’r Daith Gerdded Gylchol Pontypridd, sydd yn troelli ar draws rhan isaf y tir. Mae posib y byddent yn gosod meinciau i gerddwyr gael gorffwys a mwynhau’r amgylchedd hefyd.
Fel grŵp, maent yn teimlo bod ganddynt fwy o ffocws ar newid hinsawdd a materion cynaladwyedd ar ôl derbyn cefnogaeth Adfywio Cymru, er eu bod yn teimlo bod ganddynt ymwybyddiaeth eithaf da o’r materion yma cynt. Roedd siarad trwy’r problemau yn help i amlygu’r cysylltiad rhwng uchelgeisiau lleol ar gyfer y goedwig ac ymateb i newid hinsawdd e.e. cloi carbon, ymdrin â’r dŵr ffo, erydiad y pridd, a gwella llesiant a gwydnwch y gymuned.
Dywedodd Gill Simons, Is-gadeirydd y grŵp: “Mae wedi bod yn ymdrech i gyrraedd y pwynt yma ond rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl sefydliadau sydd wedi cynnig cefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at dorchi llewys i wella ac amddiffyn y tir gwerthfawr yma at ddefnydd y gymuned yn y dyfodol… oedd wedi’i gymryd yn ganiataol yn y gorffennol mae’n debyg.”
Comments are closed.