Mewn partneriaeth gyda Fforwm Amgylcheddol Abertawe, trefnodd Adfywio Cymru ddigwyddiad rhanbarthol a ddaeth a phobl o eglwysi lleol sy eisoes yn gweithredu ar daclo newid hinsawdd a bod yn fwy cynaliadwy, ynghyd a rheiny sydd eisiau dechrau ar y daith hynny.
Felly daeth tua 40 o bobl ynghyd yng Nhgapel y Nant yng Nghlydach, Abertawe o gapeli cyfagos ac o bellteroedd fel Abertillery a Chaerdydd am sesiwn fore o rhannu syniadau, gwybodaeth a phrofiadau. Cafwyd cyflwyniadau am sut mae Adfywio Cymru yn cefnogi grwpiau a sut mae Cynllun Gwobrau Eco-Churches yn gweithio. Mae yna sawl eglwys sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun ond sy’ heb ddechrau ar y gwaith ac felly cafwyd 3 cyflwyniad arall oddi wrth eglwysi lleol sydd wedi gweithredu; wnaeth Eglwys San Paul, Sgeti, Abertawe, Eglwysi Plwyf Llwchwr a Chapel y Nant ei hun amlinelli camau sydd wedi cymryd lle ar egni, yr adeilad, gwastraff, sbwriel a thir tu allan ac ati.
Wedi hynny roedd e’n amser am fwy o rhannu syniadau, profiadau a phigion da yn y pedwar gweithdy oedd yn ymwneud ag amryw o bynciau amgylcheddol.
Dros ginio, parhaodd y sgwrsio….roedd wir yn ddiwrnod i ysbrydoli ein gilydd a dysgu wrth eraill. Roedd yn wych i glywed oddi wrth dau o’r grwpiau mae Adfywio Cymru wedi cefnogi wrth iddynt fynd drwy’r cynllun Eco-Churches.
Dyma luniau hefyd!
Comments are closed.