Daeth nifer sylweddol ynghyd ar 29ain o Fedi o bob enwad ac ar draws Cymru i gyd, i drafod ffyrdd o weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Roedd yn gymysgedd o wybodaeth gefndirol ag enghreifftiau ymarferol oddi wrth rai sydd eisoes wedi gweithredu ac yna’r cyfle am drafodaethau llai mewn grwpiau ar wahanol bynciau.
Rhoddodd Stuart Elliott -a oedd yn cynrychioli A Rocha, syniad i ni i sut oedd y Cynllun gwobrwyo Eco-Church yn gweithio, gan annog i bobl ddefnyddio fel man cychwyn i weithio allan ble maent ar hyn o bryd a sut i symud ymlaen. Cafwyd gyflwyniad gan Adfywio Cymru hefyd ar sut y mae’n gweithio fel rhaglen ac eiamplau o’r mathau o grwpiau a gefnogwyd dros y blynyddoedd. Ond yr uchafbwynt oedd dau siaradwr, o eglwysi yn Abertawe a Llanelwy yn dangos beth y maent wedi ei gyflawni ar ei adeilad (egni, gwres, goleuo ac ati) ynghyd a ‘r tir tu allan a phethau eraill. Yn dilyn rhain cafwyd 4 gweithdy (ac yna eu haildarodd) fel bod modd i bobl dewis pynciau mwy penodol i sgyrsio amdanyn nhw mewn grwpiau llai. Mae’r adborth wedi bod yn wych ac mae egwlysi wedi gofyn am gefnogaeth oddi wrthym ni yn barod – sy’n galonogol!
Mae’r recordiad o’r sesiwn ar gael ar sianel YouTube Adfywio Cymru
Comments are closed.