
When:
|
23/06/2020
|
Time:
|
11:00 am - 12:30 pm
|
Location
|
|
‘Sut mae grwpiau bwyd cymunedol yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol’?
Dydd Mawrth 23 Mehefin 11-12.30 ar Zoom.
Mae ein system fwyd ar gyfyl newid mawr o achos Covid-19. Mae gan grwpiau bwyd cymunedol gyfle i arwain y ffordd gan ein bod yn agos at bobl ac yn hyblyg i symud yn gyflym. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cymell awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i weithio gyda chyfranddalwyr lleol i gynllunio ar gyfer y dyfodol hir dymor, ond sut allwn ddechrau’r broses?
Dewch i ddarganfod beth sy’n mynd ymlaen yn barod, rhannu’ch profiadau a chael eich ysbrydoli am y camau nesaf. Gyda siaradwyr o Fwyd Caerdydd, Bwyd Dros Ben Aber, Cyngor Sir Fynwy, Rhwydwaith Tyfu Cymunedol Abertawe a Maniffesto Bwyd Cymru.
Cofrestrwch yma: https://tocyn.cymru/cy/event/a11df1ce-2f61-43ee-a303-03931cbbb34b. Byddwch yn derbyn linc Zoom dydd Llun 22 Mehefin.