
When:
|
17/02/2021
|
Time:
|
11:00 am - 12:30 pm
|
Location
|
|
‘Creu cadwynau bwyd byrrach’
Mae yna ddiddordeb cryf mewn bwyd lleol o ganlyniad i Covid a Brexit, ac mae prosiectau cymunedol mewn lle da i greu a chryfhau cadwynau bwyd lleol. Efallai eu bod yn tyfu bwyd eu hunain, neu efallai yn helpu creu marchnadoedd i ffermwyr a thyfwyr lleol drwy chanolfannau bwyd neu i werthu’n uniongyrchol. Gallent hefyd helpu datblygu diwylliant bwyd bywiog sy’n enyn ymddiried a diddordeb mewn bwyd lleol. Gall hyn arwain pobl i weld eu hun fel dinasyddion yn hytrach na dim ond cwsmeriaid a all mewn tro arwain at fentrau newydd o fewn y gadwyn.
Ymunwch a ni a chyfrannwch eich meddyliau a’ch barn i’r pwnc hynod ddiddorol yma.
Mae’r digwyddiad yma yn adeiladu ar y ddau ddigwyddiad Bwyd o’r Gwreiddiau blaenorol a hefyd sgyrsiau wedi’u cefnogi gan Adfywio Cymru rhwng grwpiau bwyd yn y Canolbarth.