
When:
|
27/11/2019
|
Time:
|
10:00 am - 4:30 pm
|
Location
|
Gateway Community Hub
Clive Street Fishguard SA65 9DA |
Mae Transition Bro Gwaun (TBG) ac Adfywio Cymru yn eich gwahodd i ‘Cyfathrebu’n Greadigol am yr Hinsawdd’ ar Ddydd Mercher 27ain o Dachwedd yn Abergwaun, Sir Benfro.
Fe fydd yn ddiwrnod o berfformiadau, gweithdai a sgyrsiau i unrhyw un sy’ yn, neu yn meddwl am, gysylltu’n greadigol gyda’i grwp neu cymuned i siarad am newid hinsawdd yng Nghymru. Yn canolbwyntio ar weithgareddau a digwyddiadau ddiweddar TGB yn ei hardal leol, bydd y dydd yn cynnwys gwerthusiad o ddefnyddio’r celfyddydau ar gyfer digwyddiadau cymunedol.
Bydd yna berfformiadau cyfranogol a gweithdai gan fforwm theatre, theatre ieuenctid, paentio murlun yn gydweithiol, adrodd straeon, canu, comedi, crefft a gweithgareddau gyda gwastraff, gweithio gyda grwpiau cymunedol eraill, ysgolion a grwpiau ieuenctid ynghyd a gwerthuso effaith digwyddiadau.
Cefnogir rheiny sy’n mynychu i gyfrannu hefyd a dod a’u syniadau a phrofiadau eu hun i’w rhannu.
I gadw eich lle, ewch yma