
When:
|
18/03/2021
|
Time:
|
9:30 am - 12:00 pm
|
Location
|
|
Cyfle i glywed gan arloeswyr ym maes effeithlonrwydd ynni, a chael gweld o lygaid y ffynnon yr hyn maen nhw wedi’i wneud i gadw cartrefi a mannau cymdeithasol eu cymunedau’n glyd.
Bydd rhan gyntaf y diwrnod yn canolbwyntio ar gefndir effeithlonrwydd ynni a retrofit, ac edrych tua’r dyfodol ar beth allai newid. Byddwn yn trafod hyn ar ffurf cyflwyniadau, gyda’r siaradwyr yn cynnwys Jonathan Atkinson a Marion Lloyd-Jones (Carbon Co-op), Peter Draper (Rounded Developments) a Gareth Harrison (Cyd Ynni).
Bydd ail hanner y digwyddiad yn galluogi ni ystyried y themâu hyn gydag ychydig yn fwy o fanylder. Bydd gan bob person y cyfle i fynychu 2 o’r 3 ystafell drafod. Bydd rhain yn canolbwyntio ar:
Ystafell 1 – Tlodi Tanwydd a Dulliau Tŷ Cyfan
Ystafell 2 – Model y Carbon Co-op a’r canlyniadau
Ystafell 3 – Ymgysylltu Cymunedol
Digwyddiad dwyieithog fydd hwn a bydd cyfieithu ar y pryd.
Ewch yma i gadw eich lle.