Cynhaliom ein digwyddiad ‘allanol’ cyntaf ar lein wythnos diwethaf ac roedd yn boblogaidd iawn gyda dros 60 o bobl wedi cofrestru i ddod. Yn anffodus golygodd galwadau funud olaf o rhai ohonynt beidio gallu dod ond roedd yn sesiwn
gynhyrchiol a brwdfrydig iawn gyda llawer o gysylltiadau yn cael eu gwneud rhwng prosiectau a themau cyffredin wedi’u canfod.
gynhyrchiol a brwdfrydig iawn gyda llawer o gysylltiadau yn cael eu gwneud rhwng prosiectau a themau cyffredin wedi’u canfod.
Y 4 siaradwr oedd:
- Witchhazel Wildwood o Rhwydwaith Dyfu Cymunedol Abertawe
- Heather McClure o Bwyd Dros Ben Aber
- Pearl Costello o Bwyd Caerdydd/ ‘Food Cardiff’
- Deserie Mansfieldo Gyngor Sir Mynwy
Symudodd bawb i ystafelloedd er mwyn trafod eu gweledigaeth am fwyd yn eu cymuned a sut bydden yn hoffi gweithio gyda’u hawdurdodau lleol, a pha gefnogaeth byddai angen i wneud hynny? Roedd yr adborth ar y diwrnod yn bosatif dros ben a gallwch weld yr adroddiad (Saesneg yn unig)yma – Food from the Ground Up report June 2020
Ynddo mae linc i’r recoriad o’r digwyddiad sydd ar ein sianel YouTube.
Comments are closed.