Yn 2016 ymgymerodd Lisa ac Ian Allsop ar y cyfle i drawsffurfio darn o dir yn agos i’r A470 yn Ninas Mawddwy fel canolfan arddio lleol oedd mawr ei angen. Mae’r ganolfan arddio yn gweithio oddi ar y grid gan ddefnyddio datrysiadau gwyrdd am eu hanghenion ‘gwasanaethau’, gan ddefnyddio paneli solar i oleuo a chynhyrchu trydan, a dŵr glaw wedi’i gasglu i ddyfrhau. Mae cynhwysydd cludo 40 troedfedd wedi’i drawsnewid i’r siop arddio, wedi’i orchuddio mewn llarwydden i weddu gyda’r dirwedd. Mae’r siop fferm yn gynhwysydd cludo 20 troedfedd sydd yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol iawn, ynghyd â chynnyrch Cymraeg a Phrydeinig fel arall. Mae’r canolfan arddio yn cadw planhigion wedi’u tyfu yng Nghymru a Phrydain, fel coed ffrwythau Cymraeg a llwyni caled, planhigion mynyddig a phlanhigion parhaol – i gyd yn addas ar gyfer yr hinsawdd yn y rhan yma o Gymru, ynghyd â dewis o blanhigion mwy traddodiadol fel planhigion gwely blodau’r haf.
Mae Camlan yn galon i gymunedau pentrefi Dinas Mawddwy, Mallwyd ac Aberangell yn Nyffryn Dyfi uchaf.
Cysylltwyd ag Adfywio Cymru yn 2018 i chwilio am gefnogaeth fel cangen ddielw o’r fenter. Roeddent yn awyddus i hyrwyddo rhannu sgiliau a chreadigrwydd yn yr ardal leol a rhwydweithio ehangach i’r grŵp bwyd. Gyda’r caffi ar y safle yn Camlan roedd ganddynt ofod dan do lle gall aelodau’r gymuned gyfarfod ar gyfer gweithgareddau fel ffotograffiaeth greadigol, dysgu Cymraeg yn lleol, a blasu’r nwyddau pobi a’r diodydd lleol. Trafodwyd y syniad o’r gymuned leol yn tyfu ffrwythau a llysiau hefyd. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae aelodau’r grŵp wedi bod yn plannu coed brodor yn y pentref ac wedi dod yn aelodau cyson o Glwb Garddio Dinas Mawddwy.
Gwrandawodd Suzanne Iuppa, Cydlynydd Adfywio Cymru, ar yr hyn roedd y grŵp yn awyddus i’w gyflawni. Rhoddodd gymorth iddynt i ehangu eu cyrraedd yn lleol a chreu cysylltiadau gyda chynhyrchwyr bwyd lleol eraill a’r cyhoedd ehangach, mewn lleoliad mwy – Parc Carafannau Bryn Uchel yng Nghwm Llinau. Roedd Adfywio Cymru yn gallu cynnig cefnogaeth i’r digwyddiad yma – Gŵyl Amaeth a Bwyd lleol ar 10fed Awst 2019, gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr lleol yn gwerthu nwyddau. Cafwyd seminar ar ffermio atgynhyrchiol gan y ffermwr mynydd, Hywel Morgan o Lanymddyfri. Roedd yr ŵyl yn llwyddiant mawr gyda dros 120 yn mynychu, gan gynnwys ffermwyr lleol, mân-ddeiliaid, darparwyr bwyd lleol, cynrychiolwyr y cyngor sir leol, preswylwyr chwilfrydig a pherchnogion carafannau ar y safle, yn ogystal ag aelodau’r gydweithfa ffermio organig yn Eryri.
Dywedodd Hywel Morgan, y siaradwr, ffermwr mynydd o ganolbarth Cymru (a mentor y rhaglen Llywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio/Labordy Amaeth):
“Teimlwn yn gyffrous ac yn nerfus ar ôl derbyn gwahoddiad i siarad yn yr Ŵyl Fwyd, gan mai dyma oedd fy nghyflwyniad cyhoeddus cyntaf. Rwy’n ffermwr mynydd tanbaid ac ers cwblhau’r Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, rwy’n hyd yn oed mwy penderfynol o greu fferm sydd yn gynaliadwy a gweithio fwy gyda natur. Mae gallu rhannu’r weledigaeth yma a’r hyn dysgais yn hynod bwysig i mi.”
Llwyddodd i annog brwdfrydedd y mynychwyr a gofynnwyd sawl cwestiwn da a holgar yn ystod y cyflwyniad, ac wedyn hefyd. Roedd llawer o bobl yn awyddus i sgwrsio ag ef a gofyn mwy o gwestiynau – mwynhaodd y cyfle i rannu gwybodaeth ond yn bwysicach fyth, i ddysgu gan eraill hefyd.
Roedd y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant fel bod digwyddiad arall tebyg wedi’i gynnal ar y Parc Carafannau ar 30ain Tachwedd i ddathlu’r Nadolig, gyda mwy fyth o gyflenwyr lleol yn cymryd rhan.
Ar ddiwedd 2019 roedd rhwydwaith o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol yn fwy gweledol, ac yn cael eu cefnogi yn well, yn cysylltu gyda chwsmeriaid lleol cyson trwy ganolfannau bwyd fel Grŵp Bwyd Camlan. Mae hyn yn ymarfer da i helpu sicrhau diogelwch bwyd – ond nid oedd neb wedi tybio pa mor bwysig y daw hyn i bentrefi cyfagos y Dyffryn yn 2020.
Daeth hi’n fis Chwefror gyda’i stormydd a’i lifogydd olynol yn cael effaith ar y busnesau lleol yn yr ardal ac yna, yn fis Mawrth roedd hi’n amlwg bod rhaid ail-feddwl y ffordd roeddem yn cymdeithasu ac yn cael ein bwyd, hyd yn oed mewn cymuned ffermio wledig.
Mae wedi bod yn gyfnod da i adlewyrchu sut gall Adfywio Cymru helpu cymunedau i adeiladu gwydnwch wrth rannu syniadau ar lefel lleol a rhanbarthol. Mae’r diddordeb mewn tyfu lleol wedi tyfu yn Nyffryn Dyfi, gyda sawl menter yn cynyddu cynhyrchiad bwyd (yn enwedig mewn ymateb i’r coronafeirws) a tra bod diddordeb cychwynnol yma, mae wedi sbarduno’r newid a’r datblygiad sydd ei angen yn ehangach, wrth ddod â phobl ynghyd a darparu lle gall pethau diddorol yn gallu digwydd.
Dywedai Lisa a Ian:
“Mae wedi bod yn wych gweithio gydag Adfywio Cymru, ac rydym wedi buddio o’r arbenigedd a’r gefnogaeth i gysylltu gyda phrosiectau sydd yn hyrwyddo bwyd lleol – rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am gynlluniau’r dyfodol!”
Comments are closed.