Daeth nifer fawr ynghyd yn Neuadd Ogwen, Bethesda, ar gyfer ein ail ddigwyddiad dan y teitl Gwynedd 2030. Roedd rhai wynebau cyfarwydd ond hefyd nifer o rai newydd a oedd yn llawn brwdfrydedd i ddarganfod beth sy wedi bod yn mynd ymlaen ac i gyfrannu tuag at symyd pethau ymlaen.
Cyflwynodd David Lewis, Rheolwr Cadwraeth Ynni Cyngor Gwynedd, ei Cynllun Rheoli Carbon ac amlinelloedd pa gamau sy’ eisoes wedi eu cymryd, ac yna atebodd cwestiynnau o’r llawr.
Wedi hynny, rhannodd pawb i mewn i grwpiau i weithio o dan 6 thema y dewiswyd yn y cyfarfod yng ngorffennaf (egni, tai, gwastraff, bwyd, natur, trafnidiaeth). Wnaethon nhw adolygu beth nodwyd tro diwethaf, ychwanegu atynt a rhoi syniadau newydd. Tro diwethaf gofynnom ‘beth’ a ‘phwy’ ond tro yma ‘sut’ hefyd, felly rhoddwyd y sialens i feddwl yn ymarferol am sut i droi gweithgarwch yn reality.
Cafwyd amser i rhwydweithio dros ginio ac ar ol hynny. Diolch i Craig, un o’n cydlynwyr yn y gogledd am helpu drefnu ac am gadeirio’r sesiwn.
Comments are closed.