Mae Hwb Cymunedol Borth ger Aberystwyth yn gyfleuster cymunedol sydd yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth a gweithgareddau i bobl yng ngogledd Ceredigion. Pan gychwynnwyd yn 2008 roedd yn cael ei adnabod fel Canolfan Deulu Borth, ac maent yn parhau i fod yn ddarparwr gwasanaeth dibynadwy hyd heddiw. Yn y dyddiau cynnar roeddent yn cynnig gwasanaethau un diwrnod yr wythnos yn unig, ond ymestynnwyd ers hynny i gynnig gwasanaethau a gweithgareddau eang dros 5 diwrnod yr wythnos i deuluoedd mewn angen ac, yn gynyddol, y gymuned ehangach. Mae gwasanaethau yn cynnwys grŵp i gefnogi pobl gyda dementia (Get Together), Men’s Sheds, clwb ieuenctid, cyrsiau magu plant a chefnogi teuluoedd, cyrsiau tylino babanod, sesiynau galw heibio ‘Bwmp a Babi ac Amser Plant Bach’ yn ogystal â chlwb cinio iach wythnosol, gweithgareddau iaith a chwarae pwrpasol gan gynnwys sesiwn awyr agored wythnosol. Mae’r gweithgareddau amrywiol yma yn parhau yn ystod y gwyliau ysgol, ac mae gardd fywyd gwyllt a synhwyraidd ac ardal chwarae awyr agored ar gael yn yr Hwb. Mewn wythnos arferol gallant weld ac ymgysylltu gydag oddeutu 40 o deuluoedd.
Gweledigaeth yr Hwb yw helpu trigolion lleol i ddatblygu sgiliau a hyder ymhob agwedd o fywyd, gan gynnwys chwarae rhan yn ymateb i’r her newid hinsawdd. Mae’n bwysig rhannu sgiliau ymarferol a fydd yn helpu pobl i fyw’n fwy cynaliadwy. Yn y ganolfan ei hun maent hefyd yn awyddus i ddatblygu diwylliant o ymwybyddiaeth uwch o gynaliadwyedd a chefnogi pobl i wneud newidiadau fel lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, defnyddio llai o blastig (newid potel sebon plastig am far o sebon), uwchgylchu ac ati.
Cysylltodd y grŵp ag Adfywio Cymru ym mis Mai 2019 a chynhaliwyd sesiwn lwyddiannus gyda’r cydlynydd lleol Jane Powell, ble archwiliwyd materion yn ymwneud â newid hinsawdd. Roedd y grŵp yn awyddus i weithredu a phenderfynwyd ehangu’r ystod o weithgareddau i gynnwys cynigion fel caffis atgyweirio, atgyweirio beiciau a digwyddiadau uwchgylchu dillad. Fe gynhaliwyd y digwyddiad atgyweirio beic cyntaf ym mis Tachwedd 2019, yn dilyn rhywfaint o fentora gan John Cantor. Cynhaliwyd y digwyddiad prawf hwn ochr yn ochr â sesiwn goginio gyda chymysgedd diddorol o bobl yn cymryd rhan!
Nid yw wedi bod yn bosib cynnal digwyddiadau ‘atgyweirio’ pellach oherwydd y Coronafeirws ond mae’r hwb wedi addasu ei gynlluniau e.e. dosbarthu ‘pecynnau llyfrau’ ail law yn ddiogel i deuluoedd ac aelodau hŷn y gymuned. Mae teuluoedd hefyd wedi derbyn pecynnau dillad cynnes – dillad ail-law o ansawdd da unwaith eto. Mae preswylwyr hŷn wedi derbyn potiau plannu hefyd, gan ddefnyddio’r nifer fawr o blanhigion dros ben gan arddwyr brwd yr ardal. Maent hefyd wedi derbyn pecynnau celf a bwydo adar. Bob dydd Iau ers mis Mawrth mae’r hwb wedi bod yn dosbarthu bwyd i deuluoedd a thrigolion hŷn gan y grŵp trydydd sector lleol Bwyd Dros Ben Aber. Yn ogystal, mae llawer o’r gwasanaethau arferol wedi symud ar-lein gan gynnwys cefnogaeth i deuluoedd, syniadau ar gyfer gweithgareddau i blant, syniadau prydau teulu iach, hawdd a fforddiadwy, cyfeiriadau banc bwyd, grwpiau sgwrsio ar-lein, tylino babanod ar-lein a chyfeirio at wasanaethau eraill.
Llynedd bu’r hwb yn cymryd rhan ym Mheilot Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, a alluogodd iddynt edrych ar wella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad. Cawsant gefnogaeth gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru fu’n cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o’r defnydd o ynni yn yr adeilad. Mae gan y safle wariant ynni blynyddol o £2,335, sydd ddim yn swm dibwys! Un o’r argymhellion symlach oedd cynnal monitro manwl o’r defnydd o ynni er mwyn gweld y newidiadau dros amser ac yna ystyried gosod targed cyraeddadwy ar gyfer lleihau eu defnydd o ynni. Cyflwynwyd sawl mesur ‘lwyddiannau sydyn’ gyda dim cost, neu gost isel – e.e. optimeiddio gosodiadau amserydd gwresogi, galluogi ffwythiant arbed pŵer ar offer TG a chynnal ymgyrch ymwybyddiaeth goleuadau i leihau’r nifer o oleuadau sydd yn cael eu gadael ymlaen mewn ystafelloedd gwag – ochr yn ochr ag opsiynau tymor hwy fel gosod systemau ynni adnewyddadwy ar y safle. Yn y tymor byr mae’r grŵp wedi llwyddo i gael ffenestri gwydr dwbl yn lle’r hen ffenestri gwydr sengl alwminiwm (nad oedd yn cau yn iawn), ac mae drysau newydd wedi’u gosod yn y neuadd fawr. Unwaith bydd yr adeilad yn ailagor, a pan fydd cyllid yn caniatáu, maent yn gobeithio archwilio opsiynau i wella dosbarthiad rheiddiaduron. Bydd hyn yn sicrhau bod ardal y neuadd yn cael ei chynhesu’n fwy effeithlon.
Yn ystod y pandemig mae Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yr hwb, Rachel Grasby, wedi manteisio ar gyfleoedd ar-lein cynigwyd gan Adfywio Cymru i rannu a dysgu. I gychwyn, mynychodd sesiwn Cyflwyniad i Fentora gyda’r nod o annog mwy o bobl o grwpiau cymunedol i ddysgu sgiliau er mwyn gallu cynnig mentora i eraill. Cymerodd ran hefyd mewn cyfarfod rhithiol o grwpiau cymunedol sydd yn, neu wedi, gweithio ar brosiectau beiciau, rhan o fenter ehangach i alluogi grwpiau ledled y wlad i gwrdd yn anffurfiol a rhannu syniadau ac arfer da â’i gilydd trwy rith-lwyfannau.
Dywedai Rachel: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn gallu cymryd rhan yn sesiynau Adfywio Cymru yn ystod y cyfnod clo. Rwyf wedi dysgu llawer ac mae wedi bod yn gyswllt gwerthfawr gyda phrosiectau eraill ledled Cymru (rhai na fyddwn i wedi dod ar eu traws cynt). Cawsom rannu gwybodaeth, profiadau a sbarduno syniadau gwahanol ymysg ein gilydd.”
Comments are closed.