Sefydlwyd yr Innovate Trust gan wirfoddolwyr o Brifysgol Caerdydd yn 1967, fel ffordd i alluogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn, annibynnol, gweithgar a gwerthfawr o fewn y gymuned. Mae’r grŵp yn gweithio yn ardaloedd Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, gyda dros 900 o staff yn cefnogi oddeutu 264 o bobl gydag anableddau i fyw yng nghartref eu hunain. Mae’r gwaith yn amrywio o gefnogi llety byw â chymorth, darpariaeth gofal seibiant ac mewn argyfwng, amrywiaeth o fentrau cymdeithasol yn cyflawni cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith, a phrosiect garddwrol yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia. Yn ychwanegol i hyn, maent yn cynnal gwaith amgylcheddol/garddio ym Mharc Porthceri ym Mro Morgannwg a Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Mae prif waith yr ymddiriedolaeth yn cael ei ariannu trwy gytundebau gyda’r tri awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau i bobl gydag anableddau dysgu, ond maent hefyd wedi derbyn sawl ffynhonnell cyllid amrywiol dros y blynyddoedd ar gyfer prosiectau a gweithgareddau amgylcheddol.
Ar hyn o bryd mae’r Innovate Trust yn cymryd rhan yn rhaglen Hwb i’r Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, yn cymryd camau graddol tuag at y bwriad o godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a byw yn fwy cynaliadwy. I gychwyn, yn cynnal awdit ynni o’u hadeilad ac yn ail, datblygu cynnwys ymhellach ar eu llwyfan digidol.
Roedd angen cyngor effeithiolrwydd ynni ar un o’u tai yng Nghaerdydd, ac roedd hyn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod y trigolion yn gallu cadw’n gynnes a defnyddio ynni yn effeithiol. Cynhaliwyd awdit ynni lawn ar y tŷ seibiant – adeilad sydd yn gwario dros £2,930 ar ynni bob blwyddyn. Yn yr awdit, darganfuwyd y gellid arbed £1,198 mewn costau ynni (gostyngiad o 41%). O gymharu â thŷ ar wahân cyffredin (4,150kWh trydan; 17,000kWh nwy), mae’r eiddo yma yn defnyddio 51% yn fwy o drydan a 228% yn fwy o nwy. Meddyliwyd am opsiynau digost gan gynnwys edrych a nodi’r data yn rheolaidd ac edrych i weld os yw’r system gwresogi wedi’i osod i dymheredd call. Awgrymwyd pethau hefyd fyddai angen arian i’w cyflawni, fel boeler newydd, rheiddiaduron modern gyda falfiau thermostatig a nifer fach o baneli PV ar un to. Gallai gosod y mesurau yma ostwng ôl-troed carbon yr adeilad o 47% – swm sylweddol! Mae’r boeler a’r gwaith cysylltiedig wedi cael eu gosod ac mae’r Innovate Trust ei hun wedi ariannu ffenestri a drysau gwydr dwbl newydd.
Dywedodd Justine Tickner, y rheolwr:
“Ers gosod y boeler mae yna wahaniaeth sylweddol wedi bod yn y ffordd rydym yn defnyddio’r offer. Rydym mewn sefyllfa i ddefnyddio’r thermostat sydd yn caniatáu i ni fesur y gwres yn iawn a rheoli’r tymheredd. Mae’r eiddo wedi elwa o hyn gan ei fod bellach yn gynnes pan fydd angen ac yn haws i newid i’r tymheredd cywir. Roedd yn bwysig i ni adnewyddu’r gwres ar yr un pryd â newid y gwydr dwbl yn y drysau a’r ffenestri fel nad oedd cyfanswm effeithiolrwydd y gwres ddim yn cael ei gyfaddawdu. Roedd hyn yn ei hun yn gwneud i mi deimlo fel ein bod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn llawer mwy effeithlon a ddim yn gwastraffu ynni. Teimlaf hefyd y bydd ein costau tanwydd yn cael ei leihau a bydd y sgôr effeithiolrwydd ynni nesaf yn adlewyrchu hyn yn bositif.”
Mae cyfres o weithgareddau ar-lein wedi cael eu creu yn ystod y pandemig Covid-19 trwy’r llwyfan digidol Insight, sydd ag aelodaeth o dros 1,100 o bobl. Mae amryw weithgaredd ar gael gan gynnwys yoga, dysgu Cymraeg drwy gân, yr eglwys, garddio, sesiynau gitâr ac iwcalili, bywyd gwyllt, grŵp drama a llesiant, sesiynau ymarfer corff, coginio, Zumba, sesiwn ymlacio, celf a chrefft a llawer, llawer mwy. Mae penodiad Cydlynydd Ymateb Digidol o gyllid grant Loteri Genedlaethol cynt wedi bod yn help mawr i gefnogi’r cynnydd yn y mynediad i’r llwyfan, gan gynnwys staff, teuluoedd, a’r unigolion eu hunain. Mae hyn wedi cael ei ymestyn ymhellach i ganiatáu mynediad i sefydliadau ac unigolion eraill ledled Cymru sydd yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu.
Mae sawl gweithgaredd byw’n gynaliadwy a bwyta’n iach wedi cael ei gynnig dros y blynyddoedd, ond mae bwriad i ehangu hyn ymhellach, gyda chyllid CAB, yng nghyfnod dau, gydag amrywiaeth o weithgareddau digidol yn ymwneud â newid hinsawdd. Mae’r rhaglen arfaethedig yn un eang ac mae’n cynnwys:
Prosiect Rhith Randir – sydd yn annog pobl i blannu, tyfu a gofalu am lysiau, salad, perlysiau neu ffrwythau ble bynnag y maent, ac yna cymryd hanner y planhigion a’u plannu mewn rhandir go iawn yng Nghaerdydd. Mae dros 50 o bobl yn cymryd rhan – rhai gydag amhariadau dwys iawn – ac mae’r pedwar sesiwn cyntaf allan o naw wedi digwydd eisoes. Mae datblygiadau’n bositif iawn gyda chynlluniau i ddatblygu gardd synhwyraidd hefyd. Dyma Ymateb rhai o’r cyfranogwyr
Mesuriadau cynilo ynni – mae cynlluniau i gynnal 3 sesiwn yn hwyr yn fis Mai a chyfres ar newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy.
Gwaith gwirfoddol yn helpu i leihau newid hinsawdd – mae hwn yn ymwneud â chael mwy o bobl yn cymryd rhan yn eu cymunedau – yn helpu wrth lanhau’r traeth neu godi sbwriel yn y dref efallai. Mae asesiadau risg wedi cael eu cwblhau, lleoliadau addas wedi’u hadnabod a chodi sbwriel wedi cychwyn. Yn hwyrach yn yr haf hefyd, bydd cyfres o ddeg sesiwn cyffrous ac amrywiol yn cael ei arwain gan Green Squirrel. Bydd ‘Cynnal ein Dyfodol – sut i fyw’n gynaliadwy’ yn trafod pynciau fel: Natur ar y stepen ddrws – trafod y problemau sydd yn wynebu bywyd gwyllt ac archwilio ffyrdd syml i helpu.
Pwy wnaeth fy nillad? – Archwilio’r ffyrdd mae dillad yn cael effaith ar bobl a’r blaned a sut i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy wrth ddewis, gofalu a uwchgylchu dillad.
Bwyd cyfeillgar i’r blaned – archwilio’r cysylltiad rhwng ein dewisiadau bwyd a newid hinsawdd.
Gofal corff gwyrdd – ffordd i leihau’r defnydd o blastig a bod yn greadigol wrth greu pethau i’r corff.
Mae pethau yn edrych yn bositif iawn er gweithio gydag unigolion bregus ac mewn perygl, sydd wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig Covid. Mae ymgysylltiad calonogol iawn yn y gweithgareddau yma trwy’r llwyfan digidol. Mae’n caniatáu iddynt gymryd rheolaeth a chyfrannu mewn amgylcheddau diogel gyda gweithgareddau hwyl ac mae’r gweithgareddau sydd yn ymwneud a’r amgylchedd yn boblogaidd iawn. Mae’r ymddiriedolaeth yn teimlo fel eu bod yn gwneud cyfraniad pan ddaw at godi ymwybyddiaeth a chyfarparu pobl gyda’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder i weithredu ar newid hinsawdd.
Comments are closed.