Fel arlunydd tecstilau brwd sydd yn gweithio gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu yn bennaf, rwy’n pryderu am y diwydiant ffasiwn cyflym a’r gymdeithas taflu yr ydym yn byw ynddi heddiw, gyda thua 350,000 tunnell o ddillad, gyda gwerth o oddeutu £140 miliwn, yn mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn yn y DU. Mae hynny’n syndod ac yn wastraffus iawn! Er hynny, mae nifer cynyddol o uwch-gylchwyr ac ail-wneuthurwyr sydd yn awyddus i ddarganfod ac ailwampio neu ail-ddefnyddio tecstilau yn eu celf neu ‘trashion’.
Mwy o ffeithiau brawychus am y diwydiant ffasiwn cyflym:
Y diwydiant ffasiwn cyflym yw’r ail ddiwydiant mwyaf llygrol yn y byd.
Mae 10,000 eitem o ddillad yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi bob 5 munud.
Mae’r DU ei hun yn treulio tua 1.1 miliwn tunnell o ddillad y flwyddyn.
Mewn llai nag blwyddyn mae dros hanner yr eitemau ffasiwn cyflym yn cael ei waredu.
Mae llai na 10% o ddeunyddiau o ddillad yn cael ei ailgylchu i ddillad newydd.
Mae’n cymryd 2,700 litr o ddŵr i gynhyrchu un crys-T cotwm.
Fel person a fagwyd ar ddillad wedi ei basio i lawr, ‘bod yn fodlon a thrwsio’ a chreu dillad fy hun, mae’r ffigyrau yma yn syfrdanol ac yn achosi gofid. Ar wahân i lobïo llunwyr polisi i osod modelau economaidd newydd ar gyfer y diwydiant ffasiwn a’r economi gylchol, roeddwn yn teimlo bod angen i mi (a gallwn i) wneud rhywbeth ar lefel gymunedol leol. Gyda’r sgiliau a gafodd ei drosglwyddo i mi gan linell fenywaidd fy nheulu, credais byddai canolfan ailgylchu tecstilau, manion gwnïo ac ailgylchu crefftau yn ychwanegiad defnyddiol i’r ardal, ynghyd a gofod creadigol.
Prif bwrpas y ganolfan tecstilau cymunedol yw hybu ac annog diwylliant o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, gan ganlyn mewn llai o bethau yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ond mae llawer o fanteision eraill yn deillio o hyn, gan gynnwys gallu sicrhau bod deunyddiau addas ar gael yn lleol, am gost resymol ar gyfer uwch-gylchwyr, crefftwyr, grwpiau cymunedol, grwpiau theatr, meithrinfeydd ac ysgolion, cartrefi nyrsio ac ati. Byddai hyn yn cael ei gyflawni wrth drefnu casgliadau o wastraff glân gan gynhyrchwyr a derbyn rhoddion gan y cyhoedd.
Rwy’n awyddus hefyd i rannu fy sgiliau traddodiadol a modern gyda phobl gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu mewn gweithdai am bris rhesymol a grwpiau crefftio cymdeithasol. Mae crefftio a chwerthin gyda’n gilydd yn therapi gwych! Gan feddwl am yr ystod oedran, fel person sydd newydd ymddeol, roeddwn yn awyddus i gynnig cyfle i bobl eraill sydd newydd ymddeol, sydd efallai yn colli’r drefn o godi i weithio, i gael cyfle i gymryd rhan wrth wirfoddoli a / neu ymuno â grŵp crefft neu weithdai, a gyda phobl ifanc yn yr un modd (myfyrwyr celf a dylunio o golegau lleol er enghraifft) yn cael cyfle i brofi gweithio mewn cwmni budd cymunedol. Bydd eu dawn greadigol a’u sgiliau yn cael ei ddefnyddio i ail -ddychmygu ac ail-ddylunio eitemau i greu dillad a nwyddau cartref wedi’u uwch-gylchu, gan arwain at arddangosfa o’u gwaith.
Yn wreiddiol, yr enw a ddewisais oedd ‘Ragaround’, ond newidiwyd i ‘Make The Most Of It’ – gellir ei ddehongli mewn mwy nag un ffordd ac roedd yn llai cyfyngedig os oeddwn yn penderfynu ymestyn gorwelion y prosiect yn y dyfodol. Er mwyn cychwyn y prosiect, cysylltais â Chanolfan Gymunedol y Fenni, a oedd yn hapus gyda’r syniad gan eu bod wedi bwriadu sefydlu rhywbeth tebyg – felly rwy’n gweithio o dan eu mantell. Cychwynnwyd ym mis Ionawr 2020 wrth sefydlu grŵp crefftau wythnosol. Roedd ‘The Crafty Coop’ yn dechrau tyfu wrth i bobl glywed amdanynt a chawsom rai sesiynau cydweithio hefyd gyda grwpiau creadigol eraill yn y ganolfan- a chawsom lawer o hwyl!
Er mwyn hyrwyddo ‘Make The Most Of It’, cafodd cysylltiad ei greu gyda’r Caffi Atgyweirio i gael bwrdd gwybodaeth yn un o’u digwyddiadau misol lle gallwn sgwrsio â phobl am eu hanghenion a’u syniadau a’r hyn y gallem ei ddarparu ar eu cyfer.
Roedd popeth yn edrych yn bositif iawn gydag adborth a chefnogaeth dda… ond yn anffodus daeth y Coronafeirws ac roedd rhaid rhoi stop ar bopeth am nawr (gan fy mod i yn y grŵp bregus iawn ac felly’n gorfod gwarchod rhag y firws ac yn debygol o orfod gwneud hyn nes bydd brechlyn wedi’i ddatblygu.) Mae’n drueni mawr, gan fod prosiectau fel hyn yn adnodd gwerthfawr mewn cymuned wrth iddo addysgu a hysbysu pobl, uwchsgilio a chaniatáu gofod ar gyfer dysgu cymdeithasol yn ogystal â’r budd amlwg o atal eitemau rhag mynd i wastraff yn ddiangen. Tybiaf bydd rhaid disgwyl i weld beth a ddaw o’r misoedd nesaf, ond os nad allaf barhau â’r prosiect fy hun, yna byddai’n wych ei weld yn ffynnu gyda rhywun arall wrth y llyw.
————————–
Roedd Adfywio Cymru yn falch iawn o gefnogi’r prosiect yma gan ei fod yn wahanol i unrhyw brosiect arall ar ein ‘llyfrau’. Mae’r syniad gwreiddiol o fynd i’r afael â gwastraff tecstilau yn un gwerthfawr ac, fel grŵp hollol newydd, dechreuodd ein mentor wrth wrando a deall yr hyn roeddent yn gobeithio’i gyflawni, cyn cynnig cefnogaeth ar sut i sefydlu eu hunain a sut i gynllunio ymlaen llaw – pa opsiynau llywodraethu oedd yn agored iddynt a pha rai fyddai fwyaf addas. Cefnogodd hefyd i adnabod ffrydiau incwm a chyfrifo’r raddfa yr oeddent yn ceisio gweithio iddo yn y dyfodol. Roedd yr awgrym o ddod o dan adain y ganolfan gymunedol yn un ddefnyddiol iawn gan ei fod yn caniatáu mwy o gysylltiadau â’r gymuned a grwpiau presennol ac yn bwynt gollwng i’r rhai sydd yn rhoi tecstilau.
Rydym yn croesi bysedd y byddem yn parhau i gefnogi’r fenter pan fydd yn ôl ar waith ac yn cynnig cymorth iddynt gysylltu gyda grwpiau creadigol eraill sydd yn canolbwyntio ar wastraff.
Comments are closed.