Mae gen i 30 mlynedd o brofiad yn hyfforddi ac yn cefnogi grwpiau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gyda gyrfa gyfochrog yn siarad yn gyhoeddus ac fel storïwr.
Yn dilyn 5 mlynedd o wirfoddoli mewn cadwraeth ac i Greenpeace, FoE, WWF ac eraill, roeddwn yn gweithio fel rheolwr prosiect, hyfforddwr a gweithiwr datblygu yn y sector wirfoddol, yn cefnogi elusennau/grwpiau lleol yn delio ag amrywiaeth eang o ddefnyddwyr gwasanaeth (e.e. goroeswyr trais yn y cartref, grwpiau iechyd meddwl ac anabledd, pobl mewn adferiad).
Roeddwn yn cefnogi prosiectau ‘gwyrdd’ yn genedlaethol drwy’r Rhwydwaith Hyfforddwyr Amgylcheddol, yn hyfforddi ar bynciau generig fel siarad yn gyhoeddus, arweinyddiaeth, cadeirio cyfarfodydd, recriwtio gwirfoddolwyr a dylunio cyhoeddusrwydd effeithiol. Yn ogystal â chynllunio/trosglwyddo prosiect, rwy’n arbenigo mewn helpu grwpiau i fonitro canlyniadau. Rwyf yn arbenigo hefyd mewn sgiliau cyfathrebu, yn angerddol am y rhan gall siarad cyhoeddus, dynamig, o’r galon, chwarae wrth ysgogi pobl i weithredu am newid.
Cychwynnais ddod yn rhan o Drawsnewid Bro Gwaun fel storïwr, yn datblygu straeon ar faterion gwyrdd, i hyrwyddo’r agenda cynaladwyedd. Rydym wedi gweithio â’n gilydd ar ddigwyddiadau adrodd storïau gwyrdd, ac rydym yn defnyddio perfformiadau adrodd storïau i amlygu newid hinsawdd a difodiant ar hyn o bryd. Cefais fy nghyflwyno i Adfywio Cymru gan Drawsnewid Bro Gwaun i fenthyg fy sgiliau i’r grwpiau sydd yn dymuno gweithredu ar newid hinsawdd.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Credaf fod yr amrywiaeth o brofiad sydd gen i o weithio gyda grwpiau amrywiol, a fy ardal benodol o arbenigedd, yn gallu bod o ddefnydd i’r grwpiau sydd yn cychwyn mentrau newydd. Rwyf yn awyddus i gefnogi’r ‘agenda gwyrdd’, yn cyfleu brys newid hinsawdd a’r angen i gael dylanwad ar newid dros y gymuned gyfan, nid y rhai sydd yn cymryd rhan mewn gweithredu amgylcheddol eisoes. Credaf fod gwerth i’m harbenigedd sgiliau cyfathrebu, gan fod angen annog a dylanwadu pobl, i gynnwys amrywiaeth eang o bobl. Mae sgiliau siarad yn gyhoeddus a deall y pethau gwahanol gall ysgogi gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol, ynghyd â deall sut i weithio mewn ffordd gynhwysol, yn gwerthfawrogi pob cyfraniad ac yn cynyddu hunanhyder unigolion, yn rhoi’r grym iddynt i ddod yn fwy gweithredol.
Am 15 mlynedd roeddwn yn gweithio’n benodol yn cefnogi elusennau/grwpiau cymunedol lleol, o sicrhau cyllid a chynllunio prosiectau, recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr i fonitro canlyniadau ac adrodd. Roeddwn yn ‘Bencampwr Canlyniadau’ (Gwasanaeth Gwerthuso Elusennau) ac yn cefnogi grwpiau i gasglu tystiolaeth ar gyfer cyllidwyr. Yn ogystal â helpu grwpiau i recriwtio cannoedd o wirfoddolwyr, roeddwn yn arbenigo hefyd mewn sgiliau cyfathrebu ac yn gweddnewid sgiliau siarad cyhoeddus gweithwyr sydd yn gyfrifol am gyfleu neges eu helusen.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Rwy’n gweld mwy a mwy o bobl yn lleisio’u pryderon am y blaned, yn gosod cynaladwyedd ar ‘yr agenda prif lif’, yn gosod pwysau ar fusnesau/gwleidyddion i weithredu. Ar yr un pryd, mae newid yn dod, ac yn gorfod dod, o’r ‘gwaelod i fyny’ – mae yna cymaint o brosiectau sydd yn gwneud gwahaniaeth ar lefel lleol – ac mae’n rhaid i’r rhain wasgaru fel blodau gwyllt, felly mae menter Adfywio yn hanfodol er mwyn rhannu arbenigedd/y gwersi dysgwyd, i gynyddu cyllid, ysbrydoli cymunedau i weithredu, dyblygu prosiectau a sbarduno rhai newydd. Os ydym yn rhannu’r prosiectau yma, sydd ar eu hennill, yn llwyddiannus ac ar gyfer y gymuned gyfan, bydd gweithrediadau yn tyfu i swm critigol.
Comments are closed.