Rwyf wedi bod yn fentor Adfywio Cymru ers y 4 mlynedd diwethaf ac yn gweithio i Gredydau Amser Tempo ar hyn o bryd fel Rheolwr Gwerthuso. Mae gen i ymgynghoriaeth fy hun hefyd, Redford Research, sydd yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu cefnogaeth codi arian a gwerthuso, ymgynghoriadau cyhoeddus ac astudiaethau dichonoldeb.
Mae gan Tempo rwydweithiau sydd wedi’u datblygu’n dda ledled Cymru, ac maent yn awyddus i ddatblygu mwy o brosiectau yn ymwneud â’r amgylchedd, ac felly yn edrych ymlaen at ymuno â’r rhwydwaith Adfywio Cymru i rannu ei wybodaeth yn y maes yma.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Rwy’n Gyfarwyddwr gydag Ynni Cymunedol Sir Benfro, yn Rheolwr Gwerthuso ar gyfer yr elusen genedlaethol Credydau Amser Tempo ac yn Gynghorydd Tref a Chadair Pwyllgor Gŵyl Talacharn gyda chyfrifoldeb dros ein parc lleol. Cynt roeddwn yn Gyfarwyddwr gydag Ynni Sir Gaerfyrddin ac yn helpu i redeg cynnig rhannu llwyddiannus i adeiladu prosiect tyrbin £1.4 miliwn yn y Sir. Gydag Ynni Cymunedol Sir Benfro rydym yn adeiladu tyrbin mae’r gymuned yn berchen arni. Rydym hefyd wedi datblygu ac yn rheoli’r prosiect Gweithredu Ynni Lleol, yn rhoi grym i 5 o gymunedau yn y Sir i chwilio am ddatrysiadau ar gyfer eu hanghenion ynni.
Rwyf wedi bod yn rhan o ddatblygiadau cymunedol ers dros 10 o flynyddoedd, yn broffesiynol ac yn wirfoddol, ac wedi datblygu rhwydwaith dda o gysylltiadau dros y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru, yn enwedig y De Orllewin.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050 byddem yn byw’n fwy cynaliadwy yn yr ardal yma; byddem wedi gosod ynni, trafnidiaeth a systemau bwyd cynaliadwy gan ddefnyddio rhwydweithiau lleol ac adnoddau naturiol a chryfhau cymunedau. Bydd polisïau a buddsoddiad ar lefel llywodraethau cenedlaethol a lleol yn hwyluso hyn, a bydd rhaglenni mentora cyfoed i gyfoed fel Adfywio Cymru ac Atebion Mentrus yn cefnogi.
Comments are closed.