Yn fy ngwaith, rwyf yn weithiwr datblygu cymunedol i gymdeithas tai yng Nghasnewydd. Rwy’n rheoli prosiect amgylcheddol ar hyn o bryd (yn annog tyfiant cymunedol), tîm cyngor ariannol, ac amryw o unigolion a grwpiau tenantiaid sydd eisiau gwneud rhywbeth positif yn yr ardal ac angen cefnogaeth. Rwyf hefyd yn cefnogi, ac roeddwn yn rhan o sefydlu, cynllun tai cydweithredol cyntaf Casnewydd.
Y tu allan i’r gwaith rwyf yn parhau i fod yn weithiwr cymunedol. Rwyf yn gadeirydd Cymdeithas Gŵyl Maendy yn bresennol. Mae’r ŵyl hon yn ddigwyddiad celf gymunedol, am ddim, sydd wedi bod yn rhedeg ers 22 mlynedd yng Nghasnewydd. Mae gennym orymdaith, 3 llwyfan gyda cherddoriaeth, dawns, gair llafar, ac rydym yn denu oddeutu 5,000 o ymwelwyr. Rwy’n drysorydd ac yn sylfaenwr Maendy Anghyfyngedig, elusen adfywio yn cael ei arwain gan y gymuned. Rydym yn rhedeg y llyfrgell gymunedol, ac ar fin cymryd prydles ar ddarn arall o dir diangen y cyngor, gan gynnwys toiledau cyhoeddus (sydd ar gau’n bresennol). Dechreuodd Adfywio weithio gyda Chymdeithas Gŵyl Maendy a dyma pryd gofynnwyd i mi ddod yn gydlynydd yng Nghasnewydd.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Mae’r Woodlanders yn sefydliad cymunedol bach sydd â thrwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd i gynnal gweithgareddau ym Mharc Woodland, yn ogystal â helpu’r cyngor i’w gynnal. Roedd y Woodlanders yn awyddus i greu perllan mewn rhan o’r parc. Gyda chymorth y mentor Gareth, dewiswyd 12 coeden afal, gellygen ac eirinen, pob un yn rhywogaeth frodorol leol, a’u plannu ar ddiwrnod mwyaf oer a gwlyb y flwyddyn ym mis Tachwedd 2015.
O sgil plannu’r berllan mae sawl peth arall wedi digwydd. Mae tair ysgol leol wedi penderfynu cymryd rhan ac wedi plannu coeden ffrwythau eu hunain. Maent yn ymweld â’r parc yn rheolaidd, ac wedi cynnal arbrofion tyfu dôl yn y berllan. Mae’r berllan wedi arwain at Ddiwrnod Afalau blynyddol yn y Llyfrgell leol. Prynodd y grŵp suddydd ac maent yn creu sudd afal ar Ddiwrnod Afalau, yn cynnal cystadleuaeth teisen afal, dyfalu’r math o afal, yn ogystal â llawer o gelf, crefftau a chwisiau am afalau. Mae’n ddiwrnod o hwyl ac yn cael ei fwynhau yn fawr. Mae eleni yn drydedd flynedd y digwyddiad a bellach mae wedi cael ei ehangu i ddod, a rhannu, swper cymunedol. Mae gwirfoddolwyr y llyfrgell hefyd yn helpu ei drefnu. Mae’n esiampl dda o ychydig bach o gymorth gan Adfywio yn parhau i fod yn ffrwythlon mewn gweithgaredd cymunedol amgylcheddol.
Beth yw eich gweledigaeth chi o’r ardal yn 2050? Beth fydd y newidiadau a sut fydden ni wedi cyrraedd y pwynt hwn?
Fy ngweledigaeth ydy mwy o actifyddion cymunedol a mwy o bobl yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Bydd yna waharddiad ar blastig a bydd pobl yn mynd a bocs gyda nhw i siopau prydau parod a chaffis i ddod â’u bwyd gartref. Bydd Maendy Anghyfyngedig wedi sefydlu partneriaeth gyda Wastesavers Casnewydd i annog ailgylchu bwyd masnachol. Dyw’r busnesau bach prydau parod (ac mae yna sawl un) ddim yn ailgylchu bwyd ar hyn o bryd gan ei fod yn rhatach iddynt ei dirlenwi. Bydd yna geir electronig a bydd lefelau llygredd aer wedi gostwng. Bydd yr holl bocedi bach o ofod gwyrdd yn tyfu ffrwythau a llysiau a pheillyddion. Bydd yna fwy o goed! Byddem wedi llwyddo i wneud hyn ar ôl i’r llywodraeth leol a chenedlaethol annog pobl i roi tro ar bethau, ac ymddiried ynddynt i wneud hynny.
Comments are closed.