Rwyf yn gyd-sylfaenydd a Rheolwr Datblygu Hyfforddiant Beicio Cymru, menter gymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr mewn 11 mlynedd o weithredu. Mae Hyfforddiant Beicio Cymru yn cyflwyno hyfforddiant beicio i ysgolion, cyrsiau cynnal a chadw beic, hyfforddiant arweinydd reid, hyfforddiant i hyfforddwyr, a sesiynau Doctor Beic yn y gymuned/gweithle. Rydym hefyd yn cynnal Gweithdy Beicio Caerdydd – cynllun ailgylchu beiciau mwyaf Cymru.
Rwyf yn gyfrifol am gyllid cwmni o fewn y sefydliad – gan gynnwys incwm masnachu a grantiau. Rwyf hefyd yn cyflwyno’r holl fentrau cymunedol ac yn rheoli’r cynllun ailgylchu beic. Daethom yn rhan o Adfywio Cymru gan fod gennym gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rannu gyda phrosiectau beiciau neu ailgylchu eraill yn ogystal â mentrau cymdeithasol cychwynnol. Mae ein sgiliau a’n profiad yn cynnwys menter gymdeithasol, prosiectau amgylcheddol, datblygiad iechyd cymunedol, datblygiad prosiect cymunedol, ceisiadau cyllid, datblygu rhaglenni hyfforddiant a threfn lywodraethol prosiectau.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Youth Matters Aberdaugleddau, yn eu helpu i sefydlu a datblygu cynllun ailgylchu a chynnal beiciau. Ymwelais â’r ganolfan a chynnig awgrymiadau i sefydlu a gosod y gweithdy – yn ogystal â’u cysylltu gyda manwerthwyr beic lleol fydda’n gallu helpu wrth roddi darnau a beiciau i’r prosiect. Mynychodd sawl person ifanc o’r prosiect ein gweithdy yng Nghaerdydd, yn treulio diwrnod yn gweld sut roeddem yn gweithredu ein cynllun. Rhannom ein dogfennau gweithdrefnau iechyd a diogelwch a chynnal a chadw gyda’r prosiect. Mynychodd prif beiriannydd y prosiect ein cwrs Velotech Aur, cwrs safonol y diwydiant i gynnal a chadw beic.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Rwy’n gobeithio y byddem yn byw mewn cymdeithas sydd yn llawer mwy cyfeillgar i’r amgylchedd – fel unigolion byddem yn cymryd llawer mwy o gyfrifoldebau yn nhermau goblygiadau ein gweithrediadau a’n ymddygiad personol ar yr amgylchedd.
Comments are closed.