Sefydlais gynllun rhannu car cymunedol Llanidloes yn 2007. Roeddwn yn rhedeg y cynllun i gychwyn gyda 3 o wirfoddolwyr. Ar ôl 3 blynedd penderfynwyd cyflogi cydlynydd rhan-amser i redeg y clwb yn ddyddiol. Llwyddais i gael y swydd. Fy mhrif waith ydy ymdrin ag unrhyw faterion sydd yn codi fel bod y clwb yn rhedeg yn esmwyth a bod ein haelodau yn gallu dibynnu ar y ceir. Rwyf hefyd yn sicrhau bod y ceir yn cael eu gwasanaethu, trwsio, trethu, yswiriant a glanhau. Rydym yn defnyddio peiriannydd proffesiynol lleol i gadw’r ceir mewn trefn wych. Mae fy nyletswyddau eraill yn cynnwys anwytho aelodau newydd, prynu a gwerthu ceir yn ogystal â marchnata’r clwb.
Daethant yn rhan o Adfywio am ein bod yn awyddus i rannu ein profiadau o sefydlu a chynnal clwb ceir cymunedol gyda’r rhai sydd â diddordeb i wneud yr un peth. Rydym wedi cychwyn y broses o brynu ein cerbyd trydan cyntaf ac i edrych ar amnewid yr un nesaf yn raddol. Rydym yn rhagweld y bydd ein cerbyd trydan cyntaf yn cynhyrchu mwy o aelodau newydd a gallem ddefnyddio hyn i addysgu’r cyhoedd ehangach am fuddion ac anfanteision gyrru cerbyd trydan.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050? Beth fydd wedi newid a sut rydym wedi cyrraedd y pwynt yma?
I gael cerbydau trydan yn unig yn y clwb a chael aelodaeth digon mawr i gefnogi amrywiaeth ehangach o gerbydau fel faniau ac eraill sydd yn rhedeg ar hydrogen neu danwydd fel arall sydd yn ymddangos.
Comments are closed.