Rwyf yn falch o gael dweud bod fy niddordeb yn yr amgylchedd, economi lleol a chymunedau yn dominyddu fy hanes gwaith. Mae gen i dystysgrif ôl-raddedig mewn datblygiad economaidd cymunedau gwledig, ond rwyf wedi hyfforddi fel biolegydd. Dysgais llawer iawn gyda dros 14 mlynedd yn y Ganolfan Technoleg Amgen yn gwneud pethau fel manwerthu, rheoli safle, addysg, marchnata a rheoli cydweithredol.
Ers mis Mehefin 1998 rwyf wedi bod yn rheoli’r Ymddiriedolaeth Datblygu ecodyfi. Y materion a’r prosiectau rydym yn ymdrin â nhw yn ein gwaith ydy ynni adnewyddadwy yn y gymuned, twristiaeth ‘cynaliadwy’, ac annog byw’n fwy cynaliadwy, ond mae ein gwaith i adfywio cymuned gynaliadwy yn eang iawn.
Un o’r pethau rwyf yn treulio llawer iawn o amser yn ei wneud ydy cefnogi’r fenter Bïosffer Dyfi UNESCO ac yn ceisio helpu busnesau, ysgolion ac eraill i gymryd rhan ynddo. Mae’n ymofyn hwyluso amyneddgar a hyrwyddo cydweithio.
Ar hyn o bryd rwy’n Swyddog Datblygu ar gyfer Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac yn Gynghorydd i Ynni Lleol (Energy Local).
Mae Adfywio Cymru yn cynnig ffordd arall y gallaf helpu cymunedau i weithredu. Os yw pobl yn brysur iawn yn datblygu prosiect cymunedol neu’n cadw neuadd bentref i redeg, efallai nad yw newid hinsawdd yn ymddangos fel rhywbeth perthnasol iddynt, ond weithiau gellir helpu’r materion yma wrth ymgorffori gweithred sydd yn berthnasol i newid hinsawdd.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Reconnect in Nature’ wedi datblygu o’i gychwyniad fel grŵp cerdded i bobl sydd yn profi problemau iechyd meddwl. Mae bellach yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored a grŵp ehangach o gyfranogwyr, sawl un gyda phrofiad o sawl anfantais. Mae Reconnect yn cefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan fwy cyflawn mewn cymdeithas wrth gysylltu yn yr amgylchedd naturiol a defnyddio natur fel cyfaill iachâd naturiol.
Mae’r prosiect yn ymwneud â 4.5 acr o goedwig Gelli Hill, Llawhaden. Gweledigaeth y grŵp oedd sefydlu prif ganolfan hyfforddi Reconnect in Nature yn y goedwig hon. Wedi siarad drwy’r peth, penderfynwyd dylai’r prosiect Adfywio hwyluso’r camau cyntaf tuag at hyn. Roedd cyfnod cyntaf y cynllun gweithredu yma yn gweithio gydag arbenigwr rheoli coetir, i arolygu ac i lunio cynllun rheoli coetir. Byddai’r ‘arbenigwr’ yn gweithio gydag, ac yn hwyluso grŵp o wirfoddolwyr i lunio’r cynllun hwn â’i gilydd. Roedd Gareth Ellis o’r Cymoedd Gwyrdd yn chwarae rhan Mentor Adfywio Cymru, mewn dau gam:
- Dod i adnabod y safle, cyfarfod y Pwyllgor a prif wirfoddolwyr, trosglwyddo sgiliau, mapio bras
- Gwaith arolwg a mapio pellach gan y grŵp cyfan gan gynnwys gwirfoddolwyr, gan ystyried eu barn ar yr hyn dylai’r goedwig ddarparu/fod.
Cwblhawyd y gwaith yma’n llwyddiannus gyda’i gilydd.
Maent eisiau symud ymlaen i weithio gydag arbenigwr mewn adeilad lloches coedwig, fel bod grŵp gwirfoddol yn gallu creu dyluniad a chynllunio adeiladu lloches, ac yna symud ymlaen i godi arian a dysgu’r sgiliau i’w adeiladu.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050 bydd allyriad carbon Canolbarth Cymru yn ddim mwy na’r hyn mae’n amsugno drwy ei goed, mawn a llystyfiant. Bydd lefelau carbon pridd wedi cael eu codi gyda gwell hwsmonaeth, rhoi hwb i gynhyrchedd, a bydd llawer o’r tir pori wedi arallgyfeirio – rhai i gnydau âr a garddwriaethol, rhai i goetir cymysg, a rhai i gynefinoedd sydd yn cefnogi amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt.
Bydd llai o bobl ifanc yn teimlo bod angen symud o’r ardal, gan fod tai yn fwy fforddiadwy, ac maent yn creu bywoliaeth mewn economi newydd sydd yn canolbwyntio ar ddefnydd lleol o adnoddau lleol i gyfarfod anghenion lleol.
Comments are closed.