Am 30 mlynedd bellach rwyf wedi bod yn gweithio mewn addysg cynaladwyedd (28 mlynedd fel swyddog addysg yn CAT, y 2 flynedd diwethaf yn rhan amser i Maint Cymru yn cyflwyno gweithdai yng Ngogledd Orllewin Cymru, a blwyddyn yn rhan amser i Cysylltu Dosbarthiadau i Dysgu Byd Eang, yn cynghori ysgolion sydd â diddordeb mewn cyflwyno addysg fyd-eang). Dros y 30 mlynedd yma rwyf wedi datblygu gweithgareddau, gweithdai ac adnoddau eraill, i ddisgyblion ysgol ac athrawon yn bennaf, yn cynnal gweithdai i ddisgyblion a myfyrwyr o bob oedran hyd at lefel meistr, cyflwyno hyfforddiant i athrawon a hwyluso a chynnal gweithdai i amryw grŵp oedolion.
Mae pynciau wedi cynnwys defnyddio ynni, ynni adnewyddadwy (ffwythiant, effaith a photensial), olion troed eco, adeiladau cynaliadwy, effaith y cynnyrch rydym yn ei brynu, effaith ein gweithrediadau yn fyd-eang ac anghydraddoldeb, coedwigoedd law drofannol. Yn y blynyddoedd diweddaraf rwyf wedi datblygu gweithgaredd i ddefnyddio mapiau neu luniau awyrol gyda modelau, cardiau, clai ayb i roi cyfle i bobl fynegi a thrafod eu gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy.
Ers datgan yr argyfwng hinsawdd, fel cynghorydd tref Machynlleth, rwyf wedi bod yn brif gyswllt rhwng grwpiau gweithredu a’r cyngor ac yn cyflawni ymrwymiad cyhoeddus hefyd. Rwyf wedi dysgu Cymraeg ac yn eithaf rhugl.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwy’n teimlo’n gryf bod creu dyfodol cynaliadwy yn ddibynnol ar newid ar lefel llywodraethol yn ogystal â gweithrediadau ar lefel lleol. Mae’n rhaid i’r gweithredu lefel lleol yma gynnwys y gymuned gyfan hefyd, cyn belled â phosib. I sicrhau hyn mae angen creu cyfleoedd i bobl gael lleisio eu barn mewn gofodau ble maent yn teimlo bydd pobl yn gwrando. Mae’n rhaid mynd at y bobl – mewn clybiau, cymdeithasau, grwpiau capel, ysgolion ayb.
Rwyf wedi bod yn ceisio cysylltu gyda rhan ehangach o’r gymuned ym Machynlleth yn ddiweddar, yn gofyn iddynt gyfrannu i’r cynllun gweithredu ar hinsawdd sydd wedi cael ei ddatblygu gan grwpiau dethol eu hunain. Rwyf wedi mynychu grŵp pensiynwyr ac wedi trefnu i fynd i weld dau grŵp capel/eglwys a Merched y Wawr. Rwyf wedi defnyddio map mawr o Fachynlleth gyda modelau ayb i gysylltu gyda phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae hyn yn dueddol o ennyn diddordeb felly bydd pobl yn siarad ac yn rhannu barn ar y pethau fydd yn gwella ansawdd bywyd yn ogystal â chyfrannu i leihau carbon. Mae’n gweithio i bobl o bob oedran.
Mae gweithredu ymarferol yn bwysig iawn ac rwyf yn un o’r aelodau fu’n gyfrifol am sefydlu’r clwb ceir lleol.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae clybiau ceir, rhannu ceir, rhannu lifft gyda cheir trydan wedi dod yn beth arferol. Mae yna fwy o ddefnydd o fysiau a threnau, yn enwedig i’r bobl sydd yn byw yn y dref. Ceir llwybrau beicio diogel i Bennal, Aberdyfi ac Aberystwyth. Mae mwy o ffrwythau a llysiau yn cael eu tyfu a’u gwerthu’n lleol a thai wedi’u hinsiwleiddio yn dda iawn. Mae tai newydd i gyd yn un ai cyngor neu gymdeithas tai. Mae cwmni darparu ynni lleol yn prynu ynni adnewyddadwy lleol. Mae pob math o gerddoriaeth byw o ansawdd uchel a digonedd o ddigwyddiadau cymunedol hwyl yn rhwydd cael mynediad atynt. Rydym yn cychwyn wrth dynnu pobl i mewn i weithrediadau sydd ar eu hennill, yn arbed ynni ac arian.
Comments are closed.