Cefais fy magu yn Nhyddewi, Sir Benfro, ac rwy’n byw yno gyda’m mhartner a’m mhlant. Yn bresennol rwyf yn gydlynydd Prosiect Gweithgareddau Gwaredu Gwastraff Transition Bro Gwaun, yn datblygu ac yn rheoli rhaglen o weithgareddau cymunedol yn hyrwyddo’r economi cylchog. Yn gweithio gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol lleol, rwyf yn helpu pobl leol i wastraffu llai a gwarchod mwy. Rydym yn cynnal digwyddiadau cyfnewid dillad; gweithdai i ail-bwrpasu dillad diangen; trwsio eitemau’r cartref ac ailwampio hen ddodrefn; creu bagiau guppy i stopio meicroblastigau rhag gollwng i’r dŵr gwastraff mewn peiriannau golchi a chwyrlenni bwyd i ddefnyddio yn lle haenen lynu; cynllun terracycle a gwleddoedd cymunedol gan ddefnyddio bwyd dros ben.
Mae TBG wedi bod yn gweithio gydag Adfywio Cymru ers 2017. Mae Adfywio wedi darparu cefnogaeth ariannol trwy’r cynllun mentora cyfoed ac wedi cynghori a helpu TBG i gynnal digwyddiadau e.e. digwyddiad rhanbarthol yng Ngwdig yn ymwneud â chyfleoedd ynni llanw i gymunedau arfordirol ac rwyf yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau yn ymwneud â chelf a drama yn bresennol, i gysylltu’r cyhoedd cyffredin mewn ‘sgwrs’ am newid hinsawdd a ffyrdd i fynd i’r afael arno.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol i hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy a moesegol o fyw. Mae fy sgiliau yn cynnwys cydlynu prosiectau, ymrwymo a hyrwyddo’r gymuned. Rwyf yn greadigol iawn hefyd, wedi astudio Celf a Dyluniad, ac wedi cysylltu fy ymrwymiad i’r amgylchedd gyda’m sgiliau creadigol.
Roeddwn yn un o sylfaenwyr yr Ŵyl Gelf Gymunedol Celtic Blue Rock ac yn cydlynu’r Ardal Plant am 5 mlynedd, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i reoli gweithdai sydd yn hyrwyddo lleihau gwastraff gan ddefnyddio gwastraff stôr sgrap i greu dillad ar gyfer y gorymdeithiau syrcas ac addurniadau i’r gosodiad poteli plastig yn yr ardd. Rwyf wedi arwain gweithdai Global Connections yn Doc Penfro yn creu celf ac eitemau defnyddiol o wastraff glanhau’r traethau gyda myfyrwyr Bagloriaeth Cymru. Roeddwn yn un o’r rhai sefydlodd y grŵp celf gymunedol Circus Malarkey a gweithiais gydag unigolion ‘anodd eu cyrraedd’ yn ailwampio dillad o’r siop elusen i wisgoedd ar gyfer Gorymdaith Carnifal Aberdaugleddau. Roeddwn yn rhan o sefydlu Celf Sgrap yn Arberth ac yn gweithio i Springboard yn dylunio cyfres o weithdai gwnio creadigol i rieni a phlant.
Yn ddiweddar, fel rhan o’m nghwrs gradd Prifysgol cyflwynais seminar ar leihau Plastig Un-defnydd mewn Gwyliau a Digwyddiadau yn y DU.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050, mae gen i ffydd bydd ein gwleidyddwyr wedi ymateb i ofynion llawer o bobl heddiw i leihau allyriadau carbon i sero ac amddiffyn bioamrywiaeth a bod deddfwriaeth, systemau a gwasanaethau cefnogol wedi’u gosod i sicrhau y gall pawb fyw’n fwy cynaliadwy. Byddem yn byw ac yn cefnogi ein gilydd mewn cymunedau cynaliadwy, yn cynhyrchu ynni ein hunain, yn byw mewn tai ynni isel wedi’u hinsiwleiddio’n llawn, yn gallu bwydo ein hunain wrth gynhyrchu’r mwyafrif o’r hyn rydym yn ei fwyta, ac i gael gwybodaeth a sgiliau i ‘fodloni a thrwsio’ ac felly’n diogelu’r bydoedd.
Comments are closed.