Rwy’n Gyfarwyddwr sefydlu Drosi Bikes ac yn Rheolwr Trosglwyddiad Credydau Amser Tempo. Yn dod o gefndir Dylunio a Datblygu Cynnyrch, dros y 10 mlynedd diwethaf rwyf wedi cael cyfoeth o brofiad dylunio, datblygu cymunedol, cyd-gynhyrchu ac ymgyrchu amgylcheddol ar lawr gwlad. Rwyf wedi cwblhau rhaglen Arweinyddiaeth Menter Gymdeithasol 12 mis (On-Purpose) ac wedi gweithio i sawl menter gymdeithasol sy’n cefnogi cymunedau ledled y DU.
Ers dychwelyd i fy nhref enedigol, Rhuthin, rwyf wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru i geisio cael mwy o bobl i gymryd rhan yn eu cymunedau gan ddefnyddio Credydau Amser (yr arian cymunedol mwyaf yn y Byd) fel ffordd o werthfawrogi amser pawb yn gyfartal. Rwy’n credu yng ngrym cydweithredu a chyfathrebu; rwyf wedi creu cysylltiadau a rhwydweithiau yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn chwalu’r rhwystrau a chefnogi cymunedau i wneud newid positif.
Fy ffocws nawr yw helpu pobl a chymunedau i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd o lefel llawr gwlad. Dechreuodd Drosi Bikes weithio gydag Adfywio Cymru gan ei fod yn rhannu’r nod o ddefnyddio datrysiadau positif i fynd i’r afael â newid hinsawdd; rydym yn grymuso pobl a chymunedau, yn eu helpu i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Mae Drosi Bikes wedi dod o syniad a gafodd ei ddychmygu wrth feicio o Gymru i Istanbul (ac yn ôl eto!) Ar ôl dychwelyd i’r DU roedd yn gwneud synnwyr i gyfuno fy nghariad am feicio gyda fy uchelgais i helpu pobl a chymunedau i leihau eu heffaith amgylcheddol. Trwy Drosi rwyf wedi meithrin perthynas â grwpiau lleol eraill, gan sefydlu rhwydwaith menter gymdeithasol i gefnogi ac annog mudiad amgylcheddol yn y rhanbarth hwn. Gallaf nodi posibiliadau a chyfleoedd amgylcheddol ledled Cymru ymysg pobl a busnesau, ac rwyf yn awyddus i gefnogi grwpiau amgylcheddol ledled Cymru, yn eu hannog i dyfu.
Ysgogi newid ymddygiad yw un o’r heriau mwyaf i ni ac mae angen i ni gychwyn wrth helpu pawb i ddeall y ffeithiau sy’n ymwneud â Newid Hinsawdd. Yn 2015, cydsefydlais Ymgyrch Ymwybyddiaeth Newid Hinsawdd, yn gweithio gyda gwyddonwyr i chwalu ffiniau gwyddoniaeth a chodi ymwybyddiaeth o COP 21 mewn cymunedau. Wrth sicrhau cyllid UNDP aethom ati i drosglwyddo’r ymgyrch yn llwyddiannus; yn creu perthnasoedd ledled y byd i drefnu a chynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth mewn cymunedau o Fali i Gaeredin.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal erbyn 2050?
Yn 2050 byddwn yn byw mewn cymunedau cysylltiedig a gwydn. Bydd cyflymder bywyd yn arafach; byddem yn tyfu ac yn prynu bwyd yn lleol, yn teithio llai ac yn gwerthfawrogi ein hamgylchedd lleol yn fwy. Bydd ceir yn rhywbeth o’r gorffennol, a bydd ein ffyrdd yn llawn beicwyr a cherddwyr. Bydd unigolion a chymunedau yn cael eu grymuso a’u cefnogi gan bolisïau llywodraeth leol a chenedlaethol i wneud newidiadau positif yn eu bywydau.
Comments are closed.