Rwy’n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu generaduron ynni pedal i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chynaliadwyedd ynni mewn ffordd hwyl a deniadol – popeth o sinemâu a disgo sydd yn cael ynni o feic, i feiciau peiriannau swigod a throellwyr paent. Mae harneisio egni dynol fel hyn yn golygu gall cyfranwyr gael profiad uniongyrchol o’r teimlad corfforol defnyddir i newid ein hegni cemegol i egni trydanol, tra hefyd yn dysgu am y lefelau gwahanol sydd ei angen i bweru teclynnau dydd i ddydd. Wrth ddeall ynni y tu hwnt i’r soced plwg, mae’n helpu rhoi persbectif ar yr adnodd gwerthfawr yma ac yn ein cynorthwyo i newid ein defnydd a’n hymddygiad dyddiol. Mae cydweithio ag Adfywio Cymru yn ffordd wych i fedru lledaenu’r neges arbed ynni a chynaliadwyedd wrth ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau newydd.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Mae cynaliadwyedd yn y gymuned o ddiddordeb mawr gan ei fod yn ffordd wych i rymuso pobl i wneud newid yn y byd sydd yn cael effaith uniongyrchol arnyn nhw a’r ardal maent yn byw ynddi. Mae’n creu cyfeillgarwch a chysylltiadau sydd yn annog dysgu rhanedig a bod yn agored i gyfnewid sgiliau. Gall cyfuno gwahanol sefydliadau a grwpiau helpu i gadw momentwm prosiectau i dyfu a sbarduno syniadau newydd. Mae’n bwysig bod y gweithredu a’r penderfyniadau yma yn digwydd ar lefel llawr gwlad yn y cymunedau fel bod pob person yn teimlo bod ganddynt y sgiliau a’r gallu i wneud newid positif ac wedi buddsoddi yn y canlyniadau.
Fy ngweledigaeth ar gyfer 2050:
Mae gwerth adnoddau, ynni a chynaladwyedd naturiol yn cael ei ddysgu a’i arddangos ymhob ysgol, gyda gweithdai a gweithgareddau ond hefyd gyda dyluniad adeilad a rhwydwaith ynni mewnol yr ysgolion eu hunain.
Bydd gan bob cymuned ac ysgol fynediad i ofodau gwyrdd, gerddi lleol a phrosiectau tyfu sydd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau tymhorol.
Ble’n bosib, ni fydd pecynnu plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd a nwyddau defnyddwyr, ac os yw’n hanfodol yna bydd posib ailgylchu’n lleol gyda chynlluniau fel Precious Plastic, ble mae’r deunydd yn gallu cael ei ddefnyddio i greu offer ac adnoddau i ysgolion. Bydd y fath yma o gyfleuster hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio gan aelodau’r gymuned i ddylunio a chreu, yn helpu busnesau i gychwyn.
Bydd Caffis Atgyweirio yn beth arferol i holl gymunedau, yn helpu i drwsio ac atgyweirio eitemau yn ogystal â dysgu a rhannu sgiliau gwerthfawr sydd yn atal eitemau rhag mynd i safleoedd tirlewni.
Mae’r rhain i gyd yn cael eu cyflawni gyda phrosiectau ariannu sydd yn hyrwyddo cynaliadwyedd, ond yn bwysicach fyth wrth rymuso unigolion a grwpiau yn y gymuned leol i gredu bod eu gweithrediadau yn gallu creu newid positif.
Comments are closed.