Rydw i’n Gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr o Gaffi Atgyweirio Cymru- mudiad atgyweirio ac ailddefnydd sy’n bodoli er mwyn agor a chefnogi caffis atgyweirio ar draws Cymru. Mae caffis atgyweirio yn ddigwyddiadau ble mae gwirfoddolwyr yn atgyweirio eitemau am ddim i bobl leol a fyddai fel arall yn cael eu taflu i ffwrdd. Mae’r digwyddiadau yn ffordd o ddysgu sgiliau atgyweirio i ymwelwyr a hefyd yn gweithio fel hwb cymunedol ar gyfer rhannu gwybodaeth a syniadau amgylcheddol.
Mae’r galw am gaffis atgyweirio wedi golygu ein bod wedi ehangu ein gweithredu o 1 caffi yn 2017, i rwydwaith ar draws y wlad o 35 caffi, a mudiad sydd wedi ei gyfansoddi gyda 8 Cyfarwyddwr Bwrdd a Rheolwr Prosiect. Rydym yn parhau i ehangu a gwella ar y lliniariad o newid hinsawdd drwy atgyweirio, ac i hybu symudiad cymunedol tuag at ‘meddylfryd atgyweirio’- gan hybu atgyweirio fel hawl, sgil a ffordd o feddwl.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Yr atyniad yw fy angerdd am iechyd ein hamgylchedd, am amgylchedd cynnwysiadwy lle gall bobl deimlo’n gyfforddus, eu bod o werth i gymdeithas a’r gred y gall pob un person gyfrannu eu sgiliau unigryw eu hun mewn sefyllfa.
Drwy gydol fy amser gyda Chaffi Atgyweirio Cymru, rwyf wedi gweithio ymysg y bobl fwyaf cefnog ac ymysg rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig o amgylch Cymru, ac ym mhob man, mae’r cymhelliant i wella’u hamgylchedd, lleihau’r gwastraff sy’n mynd i dirlenwi, a chryfhau eu cymunedau yn amlwg. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond y wybodaeth ymarferol i ddechrau gwneud newid sydd ar goll wrth geisio troi’r cymhelliant yma yn realiti.
Fy rôl yw cefnogi cymunedau i allu gwneud y newid cadarnhaol yna. Rydw i wedi defnyddio fy mhrofiad reoli busnes helaeth (20 mlynedd +) i drosweld digwyddiadau caffis atgyweirio, ein trefnwyr a’n gwirfoddolwyr, gan weithredu prosesau a systemau i dorri i lawr unrhyw rwystrau i agor caffi atgyweirio cymunedol. Gan ddefnyddio’r sgiliau yma rwyf wedi rheoli ehangiad y mudiad dros 4 mlynedd o 1 lleoliad i 35 ar draws y wlad.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae Caffi Atgyweirio Cymru yn rhagweld cymdeithas sydd wedi ei bweru i weithio gyda’i gilydd i leihau gwastraff, rhannu sgiliau a chryfhau ein cymunedau. Credwn mai’r ffordd i wneud hyn yw drwy gydweithrediad. Mae angen i atebion ymarferol gael eu sylfaenu ar ffyrdd integredig er mwyn llwyddo i gael buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar yr un pryd.
Comments are closed.