Rwy’n Bennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltiad yn ProMo-Cymru, menter gymdeithasol ac elusen wedi sefydlu yng Nghaerdydd ond sy’n gweithio dros Gymru i gyd. Rwy’n arwain ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ddatblygu a chyflwyno prosiectau a gwasanaethau i’n cleientiaid.
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at adeiladu newid positif a pherthnasau parhaus rhwng pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol drwy sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Rwy’n brofiadol mewn mentora a chefnogi grwpiau cymuneol yn ymwneud a chyfathrebu ac ymgysylltu.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith? / Sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu?
Rwyf wedi bod yn gydlynydd Adfywio Cymru ers 2012 ac wedi gweithio gyda dros 20 o grŵpiau cymunedol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg i feddwl am syniadau creadigol i frwydro newid hinsawdd.
Mae fy ngwaith gyda Promo-Cymru yn canolbwyntio ar gyfathrebu a marchnata digidol. Rydym yn cefnogi’r sector gyhoeddus a’r drydedd sector ar sawl prosiect i wella’u dulliau o hybu’r hyn maent yn ei wneud ac i ymwneud mewn ffordd ddealladwy gyda’u cynulleidfaoedd. Mae llawer o’n prosiectau yn cael eu harwain gan, a’u ffocysu ar bobl ifanc, ac rwyf wedi cefnogi sawl prosiect amgylcheddol amrywiol a diddorol fel ailgylchu paledi pren i greu dodrefn, adeiladu gardd synhwyro i blant gydag anghenion arbennig, creu fideo i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, gweithio gyda’r sgowtiaid ar brosiect tyfu ayb.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Yn 2050, byddem yn byw mewn byd sydd yn dewis yr amgylchedd dros rwyddineb. Rydym yn arbenigwyr ar sut i isafu difrod pellach i’n planed ac yn byw bywyd mewn ffordd sydd yn amddiffyn ein byd. Gallem gyrraedd hyn wrth roi’r grym i bobl i ragweld y dyfodol delfrydol a chael llais, yn dod â phobl at ei gilydd i wneud gwahaniaeth a chyflawni nodau cyffredin.
Comments are closed.