Rwy’n Rheolwr Datblygu yn ProMo-Cymru, menter gymdeithasol ac elusen wedi sefydlu yng Nghaerdydd. Rwy’n arwain ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ddatblygu a chyflwyno prosiectau a gwasanaethau i’n cleientiaid.
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at adeiladu newid positif a pherthnasau parhaus rhwng pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol drwy sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol.
Rwyf wedi bod yn gydlynydd Adfywio Cymru ers 2012 ac wedi gweithio gyda sawl grŵp cymunedol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg i feddwl am syniadau creadigol i frwydro newid hinsawdd.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Y peth gorau am fod yn gydlynydd Adfywio Cymru ydy cael cyfarfod gyda gwahanol bobl, dysgu am yr hyn maent yn ei wneud, a’u cefnogi i daclo newid hinsawdd o lefel llawr gwlad. Ers bod yn gydlynydd Adfywio Cymru, rwyf wedi cefnogi sawl prosiect amgylcheddol amrywiol a diddorol fel ailgylchu paledi pren i greu dodrefn, adeiladu gardd synhwyro i blant gydag anghenion arbennig, creu fideo i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, gweithio gyda’r sgowtiaid ar brosiect tyfu ayb.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Yn 2050, byddem yn byw mewn byd sydd yn dewis yr amgylchedd dros rwyddineb. Rydym yn arbenigwyr ar sut i isafu difrod pellach i’n planed ac yn byw bywyd mewn ffordd sydd yn amddiffyn ein byd. Gallem gyrraedd hyn wrth roi’r grym i bobl i ragweld y dyfodol delfrydol a chael llais, yn dod â phobl at ei gilydd i wneud gwahaniaeth a chyflawni nodau cyffredin.
Comments are closed.