Rydw i yn fardd, artist gweledol ac arweinydd gweithdai. Rydw i wedi bod yn gweithio fel cerflunydd proffesiynol am 20 mlynedd ac wedi dangos fy ngwaith ar draws y byd gan gynnwys yn rheolaidd gyda’r Academi Frenhinol. Rydw i wedi ennill sawl gwobr fel bardd- mae fy nghasgliad cyntaf “Ghost Writer” ar ei 6ed rownd o gyhoeddus ac rwy’n mynd ar daith o amgylch y DU gyda fy sioe 5 seren, ynghyd a chefnogi John Cooper- Clarke yn rheolaidd. Rwy’ wedi rhedeg gweithdai ysbrydoledig am 15 mlynedd gyda Big Ideas Wales, rhaglen wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a dwi’n gweithio ar fy liwt fy hun gydag Oriel Myrddin yn rhedeg gweithdai celf a chrefft ac i ‘Sculpture by the Sea’ – grwp creadigol amgylcheddol sy’ a’i brif nod o weld pobl yn ymwneud a natur mewn ffordd greadigol a heb effaith drwg.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwy’n caru gweithio gyda a hwyluso grwpiau gyda photential heb ei adnadbod eto i ddangos sut mae celf a chrefft yn gallu gweithio fel hwylusydd i’w galluogi i feddwl am faterion, ac o ganlyniad, i weithredu mewn modd mwy ecolegol o amgylch eu cartrefi a’u cymunedau.
Rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc mewn ardaloedd yn Sir Benfro fel artist yn cynrychioli Sculpture by the Sea ac wedi defnyddio deunydd wedi’u hailgylchu i greu gweithiau celf hyfryd gyda negeseuon amgylcheddol. Casglwyd llygredd plastig oddi ar draethau lleol a’u troi i mewn i furluniau yn dangos bywyd y môr yn ffynnu. Rwy’ hefyd wedi defnyddio lleferydd i son am beryglon plastig un-defnydd pan gefais fy nghomisiynu gan Sculptuire by the Sea i ysgrifennu ac adrodd darn yn fyw ar 10 traeth gwahanol ddwy flynedd yn ôl.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Rwy’n gweld gwaharddiad llwyr ar blasting un-defnydd a bydd gan pob cartref mynediad i ardal tyfu llysiau eu hun. Byddai hefyd yn dda gweld llyfrgelloedd dillad a thegannau lle y gall pobl benthyg a dychwelyd itemau i’w defnyddio eto. Mar parhay gyda’r addysg am blastig ac ailddefnydd ac ynni adnewyddadwy yn hanfodol, a Hoffwn weld llywodraeth a chynghorau lleol yn cynnig system wobrwyo er mwyn annog pobl i newid eu harferion bersonol. Hoffwn weld y polisi lle mae tir nad sy’n cael ei ddefnyddio yn cael i droi i mewn i dir tyfu ar gyfer teuluoedd sy’ heb gardd ei hun, ac i addysgu plant o oedran ifanc iawn y pwysigrwydd o fod yn hunan-gynhaliol drwy ddefnyddio rhaglenni celf- er mwyn i’r dysgu fod yn hwyl ac yn greadigol.
Comments are closed.