Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Transition Bro Gwaun (TBG) ers 2015, sefydliad amgylcheddol yn Abergwaun a Wdig sydd yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, yn gweithio i rymuso’r gymuned a gweithredu i leihau’r effaith maent yn ei gael ar y blaned. Rwyf wedi rheoli amrywiaeth eang o brosiectau gan gynnwys Caffi Trawsnewid (yn defnyddio bwyd dros ben), sefydlu oergell gymunedol ac arwain menter lleihau gwastraff bwyd yn Sir Benfro gelwir yn Make a Meal of It. Roedd rhaid trefnu gweithgareddau gyda/ac ar ran grwpiau eraill, cynnal peilot adnodd addysgiadol a chydlynu digwyddiadau mawr, denu ymwelwyr gyda gweithgareddau ymarferol, trafodaethau a gweithdai. Mae gen i brofiad hefyd o gydlynu prosiectau ynni cymunedol ar gyfer TBG ac Ynni Cymunedol yn Sir Benfro.
Rwyf yn athrawes brofiadol ac yn gallu cefnogi grwpiau i gysylltu gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion i ddarganfod mwy am fyw’n gynaliadwy, yn ymwneud yn benodol gyda bwyd ac ynni. Efallai bydd hyn drwy addysg ffurfiol neu wedi’i deilwra i anghenion y grŵp.
Yn TBG rydym yn gweithio gyda’n cymuned i fewnosod synnwyr cadarnhaol ac annog pawb i roi tro ar syniadau newydd. Mae cefnogaeth mentoriaid Adfywio wedi bod yn werthfawr iawn am eu bod yn deall sut mae grwpiau cymunedol fel un ni yn gweithio, y cyfyngiadau a’r cyfleoedd sydd yn agored i ni.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Mae fy ngweithredaeth a’m mhrofiad gwaith yn ymwneud ag addysg, bwyd ac ynni adnewyddadwy – yn eu gwneud yn agored i bawb, heb gostio’r byd. Fel athrawes mewn ysgolion a gosodiadau eraill, gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, rwy’n mwynhau cyfarfod â phobl a rhannu dysgu. Fel Rheolwr Prosiect Transition Bro Gwaun rwyf wedi gweithio ynghyd â thîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi cyflawni nifer o bethau am y tro cyntaf yng Nghymru; caffi bwyd dros ben; oergell gymunedol; a thyrbin gwynt wedi’i ariannu gan y gymuned! Mae’n ysbrydoledig gweithio gyda phobl angerddol sydd yn adnabod eu cymunedau a’r hyn sydd yn bwysig iddynt.
Mae’n rhaid cynllunio er mwyn sefydlu gweithred gymunedol neu brosiect llwyddiannus, ac efallai bydd angen addasu rhywbeth sydd yn gweithio mewn un ardal er mwyn iddo weithio mewn ardaloedd eraill. Er esiampl, gydag Oergell Gymunedol Abergwaun a Wdig rydym yn annog pawb i wneud defnydd o’r bwyd – mae lleihau gwastraff bwyd yn gyfrifoldeb i bawb. I sicrhau etifeddiaeth y prosiect rydym yn croesawu rhoddion ariannol gan nad oes gennym arian i dalu costau cyfredol, yn ogystal â chefnogaeth ar ffurf mynediad gan wirfoddolwyr sydd yn derbyn hyfforddiant cyfoed a chefnogaeth gyfredol. Yn dilyn pryderon gan drigolion lleol, cafwyd diwrnod agored a bellach mae nifer o bobl yn yr ardal yn defnyddio’r oergell gymunedol ac â diddordeb ynddo’n gweithredu’n esmwyth.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Bydd gan bawb rywle cyfforddus i fyw, gyda mynediad diogel i fwyd maethlon a blasus, ynni adnewyddadwy ac addysg rymusol a diddorol. Byddem yn gwrando ar bobl ifanc llawer mwy, yn cydnabod mai nhw yw’r dyfodol ac yn sicrhau eu bod yn gallu cyfranogi i’r penderfyniadau a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny. Bydd cymunedau wedi cysylltu’n well gyda gofodau lle gall pobl gyfarfod, cymdeithasu a dysgu gan ei gilydd, bydd neb yn unig.
Comments are closed.