Rwy’n Sylfaenydd/Noddwr y Cyngor Un Blaned, cyfarwyddwr cwmni buddiant cymunedol Canolfan Un Blaned (fy sefydliad lletya i Adfywio Cymru) ac yn awdur, newyddiadurwr, ymgynghorydd, rheolwr prosiect ac yn siaradwr ysbrydoledig ym maes cynaladwyedd gwladol a threfol, effeithiolrwydd ynni, adeiladau ac ynni adnewyddadwy. Rwy’n awdur dros 10 o lyfrau a miloedd o erthyglau ar y pynciau yma, rwyf hefyd yn darlithio mewn datblygiad/trefn lywodraethol un blaned ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Credaf mewn defnyddio fy ymwybyddiaeth fanwl o dechnolegau, gwyddoniaeth deddfwriaeth ac ymarfer gorau ar bob lefel, o unigolion i ddatblygiad gwladol, agro-ecoleg i ddinasoedd, er mwyn dangos yr holl fuddiannau y daw o newid positif. Gallaf ddehongli gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddeniadol, syml, ac rwyf wedi cynnal nifer o weithdai a chyrsiau. Mae cael safbwynt holistig, cadw at dechnegau sydd wedi’u profi eisoes, ac eco-minimaliaeth i gyd yn rhan o’m hegwyddorion tywys. Rwyf hefyd yn rhedeg cwmni cyfryngau cynaliadwy llwyddiannus, Cyberium, sydd yn creu gwefannau, fideos a chyhoeddiadau ar gyfer achosion da.
Pa fath o waith rydych chi wedi ei wneud i gefnogi grwpiau gydag Adfywio Cymru?
Yn aml, byddaf yn gwneud arolwg o adeiladau ac yn cynhyrchu adroddiadau ynni ar sut mae’r sefydliad cymunedol sydd yn berchen arno yn gallu arbed ynni a gwella profiad deiliaid a gwerth yr adeilad. Rwyf hefyd yn cynnig cyngor ar ynni adnewyddadwy fel gwynt, solar, pympiau gwres a phŵer dŵr. Y darn o waith mwyaf diddorol hyd yn hyn oedd rhoi cyngor i sefydliad lles glowyr ar greu gardd newid hinsawdd i ddangos i’r gymuned leol sut i addasu eu gerddi i leddfu ac addasu i newid hinsawdd
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Hoffwn weld Cymru ‘un blaned’ o gymunedau gwledig atgynyrchiedig yn darparu nwyddau a gwasanaethau i rai sydd yn byw mewn ardaloedd trefol. Bydd gennym ynni adnewyddadwy 100%, trafnidiaeth gynaliadwy, bwyd organig lleol, ac economi cylchol, gyda phopeth yn cael ei adnewyddu’n ddiddiwedd a dim gwastraff. Yn hytrach nag bod yn gywerth i dair planed, bydd ein hôl troed ecolegol cyfunol wedi gostwng i un blaned, lefel sydd wir yn gynaliadwy. Bydd iechyd a llesiant pawb wedi gwella o ganlyn hyn.
Comments are closed.