Rwy’n Ffotograffydd ac yn Artist Creu Ffilm yn byw ac yn magu teulu yng Nghymru. Rwyf wedi cydweithio (cynhyrchu ffilmiau a delweddau) ers nifer o flynyddoedd gyda sefydliadau ac unigolion lleol ar lawr gwlad sydd yn ceisio amddiffyn amgylcheddau naturiol gwerthfawr a dathlu diwylliant lleol. Rwy’n un o aelodau sefydlol y grŵp ‘Ffrindiau Gwy Uchaf’ a sefydlwyd i frwydro’r lefelau uwch o lygredd sydd yn fygythiad i’r afon.
Gyda theulu ifanc rwy’n teimlo’n hynod o benderfynol i gryfhau cymunedau lleol i fedru gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a dirywiad amgylcheddol yn well. Rwy’n gweithio’n agos gydag artistiaid, actifyddion, awduron a beirdd gan drosi eu gwaith a’u syniadau yn ffilmiau byr sydd yn dathlu hunaniaeth, hanes, tirwedd a chof lleol. Mae Celf yn chwarae rhan hanfodol mewn datblygu cynaliadwy i mi.
Ers symud i ganolbarth Cymru, rwyf wedi dechrau datblygu sgiliau ymarferol sydd yn fy nghysylltu â’r natur a’r amgylchedd lleol. Rwy’n dysgu am arddwriaeth ac mae gen i angerdd newydd am dyfu bwyd. Rwyf wedi bod yn adeiladu strwythurau ffrâm bren ac yn dysgu am waith coed. Rwy’n credu y dylai pawb gael cyfle i gysylltu ac ailgysylltu â natur. Rwy’n dysgu Cymraeg (yn araf).
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Credaf ei bod yn hanfodol i gymunedau rannu straeon eu hunain o ran eu treftadaeth a’u hunaniaeth ond hefyd o ran ymateb i newid hinsawdd. Gellir defnyddio ‘cof byw’ a ‘gwybodaeth leol’ ar ffilm i ddangos y bygythiad y mae newid hinsawdd yn ei gynrychioli ac i gofnodi’r hyn a gollwyd eisoes.
uYn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn creu ffilmiau byr ‘adweithiol’ yn y gymuned leol yn brwydro yn erbyn y llygredd parhaus ac ewtroffigedd yr Afon Gwy. Credaf fod creu ffilmiau, cyfweliadau a ffotograffiaeth o ansawdd yn sgiliau hanfodol i helpu cymunedau i roi cyhoeddusrwydd i faterion lleol, i ddangos bygythiadau i’r amgylchedd ac i lobïo’r llywodraeth i weithredu.
Yn hanfodol, credaf y gall creu ffilmiau fod yn ffordd ddefnyddiol a mynegiannol i gymunedau lleol wynebu a ‘gweithio drwy’ materion cymhleth a darganfod safbwyntiau a dealltwriaeth newydd.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae angen chwyldroi Cymru gyda chludiant cyhoeddus gwyrdd rhad ac am ddim. Rhaid i’r pentrefi, y trefi a’r dinasoedd fod yn gysylltiedig â llwybrau cerdded a beicio. Rhaid cael chwyldro bwyd gyda mwy o fwyd amrywiol yn cael ei dyfu yn y cymunedau lleol. Dylai cyfleusterau band eang o safon uchel iawn fod ar gael i bawb.
Mae angen gwella amddiffyniadau amgylcheddol a newid rheoliadau cynllunio i atal difrod pellach i’r tirweddau naturiol sydd yn sail i ddyfodol tymor hir Cymru.
Rhaid dathlu hunaniaeth leol a gwneud Cymru yn le agored a chroesawgar i’r bobl hynny sydd yn chwilio am loches a chartref newydd mewn amgylchedd byd-eang newidiol.uuu
Comments are closed.