Emma Douglas ydw i, Swyddog Datblygu Rhanbarthol De Cymru i Pori Natur a Threftadaeth (PONT), sefydliad cadwraeth pori Cymru. Mae PONT yn hyrwyddo pori ar gyfer bioamrywiaeth fel datrysiad rheoli tir, rheoli llwyth tanwydd, mynediad a threftadaeth ddiwylliannol. Rydym yn ymddwyn fel ‘PONT’ rhwng amaethyddiaeth a chadwraeth natur, ac yn defnyddio profiad ymarferol ac atebion arloesol i ddatrys problemau.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o’r angen am anifeiliaid pori, helpu rheoli tir wedi’i adael a chynorthwyo porwyr wrth hyfforddi pobl i wirio stoc gymunedol. Wrth fod yn rhan o Adfywio gallem helpu grwpiau ledled De Cymru i ddysgu sgiliau newydd a chysylltu pobl gyda’r bywyd gwyllt ac amaethyddiaeth leol.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwy’n mwynhau helpu pobl i gysylltu gydag amaethyddiaeth a bywyd gwyllt, mae hwyluso cysylltiad i anifeiliaid a natur yn wobrwyol. Rwyf wedi helpu sefydlu grwpiau gwirio stoc dros De Cymru. Mae’r gwirwyr stoc wedi’u hyfforddi ac yn cael eu cefnogi gan grwpiau sydd yn cynnwys perchnogion yr anifeiliaid fferm, rheolwyr tir a PONT. Mae gwirwyr stoc gymunedol yn buddio o’r cysylltiad gyda lleoliadau prydferth, llawn natur, yr anifeiliaid a chadw’n heini. Maent yn helpu perchnogion yr anifeiliaid, yn eu rhyddhau o’r amser sydd ei angen i gyflawni gwiriadau dyddiol. Mewn cyfuniad hefyd, mae gwarchodfeydd natur yn Ne Cymru yn derbyn rheolaeth, gan fod galw mawr am hynny.
Rwyf wedi helpu sefydlu dau brosiect rhannu gwartheg cymunedol yn Gŵyr. Mae hapddalwyr yn berchen ar y gwartheg, maent yn pori ar dir natur ffrwythlon eu holl oes ac yn dod yn gig eidion iachus, maethlon a moesol sydd yn cael ei rannu gyda’r grŵp. Mae’r grwpiau rhannu gwartheg wedi helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, cadw’n heini, rheoli tir ar gyfer bioamrywiaeth yn y ffordd fwyaf naturiol a chynaliadwy, gan ddarparu bwyd iachus, lleol o ganlyn hynny.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Bydd gennym ddiwydiant amaethyddol iach a ffyniannus ar raddfa fach i ganolig, a bydd gan bobl gysylltiad i’r bwyd sydd yn cael ei fwyta. Byddem yn defnyddio bridiau anifeiliaid fferm brodor i bori tir natur ffrwythlon, ac yn defnyddio technegau pori atgynhyrchiol i gynyddu iechyd pridd, wedi’i gyfuno gyda chnydio âr.
Bydd pobl yn parchu anifeiliaid fferm, yn deall eu rhan yn y system eco, a bydd natur yn ffynnu. Bydd y cymorthdaliadau amaethyddol wedi newid a bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am y canlyniadau cyflawnir ac yn cael mewnbwn i’r cynllun. Byddem eisiau talu mwy am fwyd a gwobrwyo cynhyrchwyr am ansawdd eu cynnyrch. Bydd Polisi Llywodraethol yn mynnu caffael cynnyrch cyhoeddus lleol, ansawdd uchel mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi nyrsio ac adeiladau sifil. Bydd addysg a hyfforddiant yn cael ei ddarparu i helpu gyda’r trawsnewid.
Comments are closed.