Mae Gareth yn Beiriannydd Siartredig sydd wedi gweithio gydag ynni adnewyddadwy ers dros bymtheg mlynedd. Mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect ynni cymunedol ac yn brofiadol ymhob cyfnod o ddatblygiad prosiect. Mae Gareth yn gyfarwyddwr y datblygwr ynni adnewyddadwy Seren Energy Cyf, yn gadeirydd Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe (SCEES) ac yn gweithio yn Ynni Sir Gâr fel Cydlynydd Man Gwefru Cerbydau Trydan.
Mae Ynni Sir Gâr yn Gymdeithas Budd Cymunedol, yn gweithio gyda chymunedau i leihau costau ynni, taclo tlodi tanwydd, generadu ynni adnewyddadwy glân, a chadw elw yn lleol. Maent yn berchen ar dyrbin gwynt 500kw wedi ariannu gan gynnig cyfrannau cymunedol ac wedi trefnu gosod cynlluniau PV ar raddfa lai yn yr ardal. Mae mentrau eraill maent yn rhan ohono yn cynnwys treialu lleoliadau Ynni Lleol yn Sir Gâr ble gall preswylwyr lleol brynu trydan yn syth o gynllun ynni adnewyddadwy sydd yn berchen i’r gymuned. Maent hefyd yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill yn yr ardal ar leoli strategol mannau gwefru a chynyddu defnydd o gerbydau trydan.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Mae newid hinsawdd yn cael ei ystyried gan sawl un fel y mater pwysicaf sydd yn wynebu ein planed heddiw, ac mae consensws gwyddonol mawr yn cefnogi’r farn yma. Mae gan bawb ei ran i chwarae yn dod i’r afael ar hyn, gan gynnwys cymunedau yn cymryd rhan ac yn gyrru mentrau lleol ymlaen. Mae prosiectau sydd yn berchen ac yn cael eu gyrru yn lleol yn tueddu i fod â buddiannau mwy gweladwy i’r ardal gyfagos nag y mae cynlluniau fel arall. Maent hefyd yn addysgu pobl ar bwysigrwydd newid hinsawdd liniarol ac yn eu hannog i weithredu.
Mae Gareth wedi bod yn ymgynghorydd ac yn ddatblygydd yn ystod ei yrfa. Mae llawer o’r prosiectau bu’n gweithio arnynt yn gynlluniau ynni cymunedol. Mae ganddo brofiad o holl gamau datblygiad ynni adnewyddadwy, o’r dewis safle a’r asesiad cychwynnol i osod a gweithredu. Mae’n brofiadol iawn ac yn gallu cynghori grwpiau ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a’u helpu i symud yn effeithiol trwy bob cam o’r broses. Mae Gareth hefyd yn brofiadol iawn mewn ymrwymiad cymunedol, ac wedi trefnu a mynychu sawl digwyddiad cyswllt cymunedol i ddarparu gwybodaeth ar ddatblygiadau i breswylwyr lleol. Mae wedi siarad am ynni cymunedol ac adnewyddadwy i gynulleidfaoedd amrywiol, ac mewn sefyllfa dda i fedru hyfforddi a hysbysu eraill ar ynni adnewyddadwy.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Yng Nghymru, yn hanesyddol, mae’r mwyafrif o elw cynhyrchu ynni wedi mynd i’r buddsoddwyr cyfoethog sydd yn dod o rywle arall. Hoffwn weld mwy o gymunedau yn berchen ar gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy eu hunain, yn cynhyrchu incwm o ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu yn lleol, ac yn gwneud arbedion ar filiau ynni wrth dderbyn cyflenwad yn syth o’r cynhyrchwyr ynni. Bydd yna gynyddiad enfawr yn y defnydd o gerbydau trydan erbyn 2050, ac rwyf yn awyddus gweld clybiau car trydan cymunedol fel rhan sylweddol o hynny, yn cynnwys ynni adnewyddadwy ble’n bosib.
Comments are closed.