Rwyf wedi bod yn cynnal y prosiect OpenEnergyMonitor.org ers 2010 i ddylunio ac adeiladu technoleg garbon isel ffynhonnell agored i helpu deall ac optimeiddio’r defnydd a’r cynhyrchiad o ynni. Mae gen i flynyddoedd o ddiddordeb wedi bod mewn ynni a thechnolegau sydd yn helpu ni i drosglwyddo i systemau ynni di-garbon. Yn 2015, i leihau allyriadau carbon fy hun, trosglwyddais i fod yn berchen ar gerbyd trydan fel yr unig gerbyd ar gyfer ein cartref. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi cael llawer o brofiad yn gyrru cerbydau trydan ledled y DU a sawl trip i Ewrop. Yn fy amser rhydd rwy’n cynnal blog zerocarbonadventures.co.uk i rannu profiadau teithio carbon isel. Rwy’n mwynhau canolbwyntio ar broblemau ymarferol ac mae’n well gen i ddefnyddio ymagwedd ymarferol hefyd.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwy’n awyddus i rannu fy ymwybyddiaeth o gerbydau trydan ac i helpu grwpiau cymunedol ac unigolion i drawsnewid i fod yn ddi-garbon. Yn ddiweddar, rwyf wedi helpu rheoli prosiect ar gyfer Arloesi Gwynedd yn ymwneud â dau gerbyd trydan cymunedol.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Yn 2050 bydd holl ddefnydd ynni, fel gwres, teithio a chynhyrchu, wedi’i drydaneiddio bron yn llwyr a’r holl drydan bron yn cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy. Bydd natur ysbeidiol cynhyrchu adnewyddadwy yn cael ei gydbwyso gan fatris storio cartref a gan y grid, byddem yn cael ein hannog i ddefnyddio ynni pan fydd ar gael fwyaf gyda thariffau trydan deinamig. Bydd unrhyw drydan sydd yn cael ei gynhyrchu’n ormodol yn cael ei ddefnyddio i greu tanwydd hylifol neu nwy i’w storio’n dymhorol. I raddau helaeth, bydd cynhyrchu yn gylchol, gyda’r mwyafrif o ddeunyddiau ar gyfer cynhyrchu newydd yn cael ei feddiannu wrth ailgylchu deunyddiau presennol. Bydd rhannau helaeth o gefn gwlad yn cael ei droi’n wyllt unwaith eto a ffermio anifeiliaid yn lleihau.
Comments are closed.