Rydw i wedi gweithio gyda’r Dref Werdd am bron i 12 mlynedd bellach yn datblygu nifer uchel iawn o brosiectau gwahanol dros y cyfnod yma.
Cafodd Y Dref Werdd ei sefydlu i ddatblygu’r amgylchedd lleol a’r gymuned ei hun wrth chwarae rhan fawr yn datblygu’r economi leol, iechyd a lles y boblogaeth a llawer mwy. Mae fy rôl wedi newid gyda’r prosiect ers i mi gychwyn fel swyddog gweithredol pan sefydlwyd y cynllun, i fod yn rheolwr prosiect iddo heddiw.
Fues i yn gyfrifol am reoli prosiect hynod lwyddiannus wedi ei ariannu gan y Loteri Fawr am dair blynedd. Golygai hyn bod rhaid i mi reoli staff a gwirfoddolwyr a’u rhaglenni gwaith. Roeddwn hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid y prosiect, darparu adroddiadau cyson i’r arianwyr, yn ogystal â’r bwrdd rheoli. Ond, efallai yn bwysicach fyth, roedd fy mhrofiad blaenorol o weithio o fewn cymuned Bro Ffestiniog yn oll bwysig i allu cyrraedd yr amcanion gosodwyd i’r prosiect. Rydym yn gweld cyd-weithio gydag Adfywio Cymru yn cryfhau amcanion Y Dref Werdd i’r dyfodol, felly yn hynod bwysig wrth symud ymlaen gydag ein datblygiadau a gwaith i’r gymuned hon.
Beth yw atyniad y math yma o waith, a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu yn y gorffennol?
Fel y soniwyd eisoes, sefydlwyd Y Dref Werdd er mwyn gwarchod yr amgylchedd, etifeddiaeth amgylcheddol, iechyd a lles y boblogaeth a chynnig cyfleoedd i bobl Bro Ffestiniog. Nid oes cynllun o’r fath yn bodoli yn yr ardal. Yn hanesyddol rydym wedi helpu nifer o grwpiau lleol i weithredu. Yn 2012 sefydlwyd Cymdeithas Rhandiroedd Bro Ffestiniog gyda chymorth Y Dref Werdd ac mae’r grŵp yn parhau i fod yn llwyddiant heddiw.
Yn fwy diweddar, rydym wedi bod yn rhan fawr o lwyddiant Gwelliannau Llan Ffestiniog i ddatblygu eu safle cymunedol, sef Cae Bryn Coed yn y pentref. Rydym hefyd yn cyd-weithio yn rheolaidd gyda’r asiantaethau tai, Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Grŵp Cynefin, i ddatblygu prosiectau sydd yn cael effaith ar eu tenantiaid. Mae’r Dref Werdd hefyd yn rhan holl bwysig o waith Cwmni Bro Ffestiniog, sef cwmni ymbarél ar gyfer yr holl fentrau cymdeithasol yn yr ardal, gyda’r prif ffocws i gyd-weithio i ddatblygu’r ardal ac yr economi leol.
Beth yw eich gweledigaeth chi o’r ardal yn 2050?
Wrth edrych ar ystadegau presennol yr ardal, mae’n amlwg ei fod yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ardal sydd yn dioddef fwyaf o dlodi tanwydd yng Nghymru ac yn un o ardaloedd sydd â chanran mwyaf o ddiweithdra yng Ngwynedd. Bwriad Y Dref Werdd a’i bartneriaid yw lleihau hynny dros y blynyddoedd nesaf. Un o’r prif bethau byddem yn gweithio arno hefyd yw chwarae ein rhan i leihau materion sydd yn cael effaith ar newid hinsawdd e.e. agor siop ddiwastraff yn yr ardal, taclo rhywogaethau ymledol a chodi llawer mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg trigolion. Profiad o weithio yn y gymuned hon yw’r prif beth sydd yn dod a ni i’r canlyniad yma.
Comments are closed.