Helo, fy enw i yw Heather McClure ac rydw i’n gweithio gyda thîm Bwyd Dros Ben Aber yn Aberystwyth i ail-ddosbarthu bwyd sy’n wastraff yn ein hardal.
Mae’r tîm yn ymroddgar, dychmygus ac uchelgeisiol, ac mae cyd-weithio yn galluogi’r prosiect i edrych ar ffyrdd newydd o leihau effaith gwastraff bwyd, gan daclo achos y broblem a mwynhau bwyd. Wnaethom ymuno ag Adfywio Cymru er mwyn dysgu wrth grwpiau cymunedau eraill am weithredoedd newydd allwn annog ein cymuned i wneud, ac i rannu ein dysg a’n profiad am sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth i’n system fwyd a’n cymuned yma yn Aberystwyth.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Yn ystod fy nghwrs Meistri roeddwn eisiau gweithredu i gefnogi system fwyd mwy cydnerth. Ochr yn ochr â gweithredwyr eraill wnaethom sefydlu mudiad cynaliadwy ac arweiniodd holi cywrain gydag archfarchnadoedd at sylweddoli’r broblem o wastraff bwyd- ac nid yw wedi diflannu.
Mae fy rôl yn cefnogi’r sefydliad i archwilio ffyrdd newydd i arwain o’r blaen, arddangos gweithrediadau hinsawdd gwahanol, atebion i les cymunedol a sicrhau fod gennym strwythur strategol i gwrdd ag anghenion creu system fwyd cydnerth ac anghenion ein cymuned.
Rwyf wedi bod yn gweithio gyda gwastraff bwyd am bron I 4 mlynedd bellach ac rwy’n rhannu gwybodaeth a hyfforddiant gyda staff a thimau gwirfoddoli i alluogi gweithredu cymunedol ar ail-ddosbarthu bwyd. Wrth i wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ac unigolion ymwneud a’r prosiect, rwy’n eu cefnogi i ymuno mewn modd sy’n eu siwtio nhw, fel helpu gyda digwyddiadau, casglu gwybodaeth ar gyfer ymchwil, cyd-weithio ac ati.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal erbyn 2050?
Erbyn 2050 bydd cymuned Aberystwyth wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol i ddelio gyda system fwyd cylchol, lleol a chydnerth. Bydd ehangiad egwyddorion amaeth parhaol ac atebion ‘biotech’ wedi galluogi mwy o bobl i gynnig eu sgiliau a’u diddordeb i gynhyrchu bwyd, ac mae hyn wedi arwain at well hygyrchedd, diddordeb a chyfranogiad mewn cael bwyd iachus i bawb. Mae gan unigolion, grwpiau cymuneol a busnesau fwy o gyfel i fod yn rhan o’r system fwyd lleola cefnogi opsiynnau cynaladwy sy’n rhoi ‘gwobrwy’ teg i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.
Mae mwy o bobl yn deall o ble y daw eu bwyd ac mae hyn wedi rhoi ysbrydoliaeth am sector gweithgynhyrchu bwyd lleol sy’n creu byrbrydau , prydau a chynhwysion cynaliadwy. Mae’r egni a’r balchder o hyn wedi annog fwy o ddigwyddiadau cymunedol, trafodaethau a rhoi llwyfan i syniadau dyfeisgar a chydnerth. Mae grwpiau cymunedol eraill wedi sefydlu cynlluniau egni lleol a chynlluniau rhannu ceir er mwyn lleihau llygredd. Mae cerddorion ac artistiaid wedi cymryd i’r strydoedd i ddathlu! Rydym yn gryf ac yn iach!
Comments are closed.