Rwyf wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd effeithiolrwydd ynni dros y deg mlynedd diwethaf. Mae gen i gefndir cydymffurfiad ac ardystio Ynni. Roeddwn wedi cael hen ddigon o’r comisiynu diddiwedd o archwiliadau/arolygon/adroddiadau Ymddiriedolaeth Garbon ayb. nad oedd yn arwain at brosiectau cyflawn nac mesuriadau arbed ynni. Felly, penderfynais ganolbwyntio ar roi ‘ateb cyflym’ arbedion ynni i sefydliadau gyda goleuo effeithiolrwydd ynni, byth yn arbed llai nag 50% o’u costau presennol.
Rwyf wedi cyflawni prosiectau yn y sector Cyhoeddus a Preifat yn ogystal â’r sector Cymunedol. Rwyf hefyd wedi cyflawni prosiectau yn harneisio technolegau gwahanol gan ddefnyddio cyfuniad o oleuadau, PV Solar a systemau wrth gefn batri solar. Cefnogodd Adfywio eglwys yng Nghymru i leihau ei filiau trydan o £179 y mis i lai nag £29 wrth ddefnyddio’r mesuriadau yma. Rwyf wedi bod yn rhan fawr o drosglwyddo asedau o Awdurdodau Lleol a phrosiectau ariannu ar gyfer adeiladau cymunedol. Yr esiampl orau o’r diwethaf ydy Ysgol Criced Dan Do Glyn Ebwy. Derbyniodd £85,000 gan Fwrdd Criced Sirol Lloegr. Yn aml ni fydd sefydliadau masnachol yn cyffwrdd yn y sector gymunedol gan ei fod yn cymryd llawer o amser ac yn ddielw ac nid ydynt yn fodlon bod yn ymgynghorwyr dibynadwy. Dyma’r prif reswm i mi fentora i Adfywio Cymru, i wneud gwir wahaniaeth a darparu cefnogaeth ddibynadwy a chyngor gyda data dibynadwy a chadarn i’w gefnogi. Rwyf yn angerddol dros effeithiolrwydd ynni a sicrhau arbedion. Mae pobl angen tystiolaeth i ddechrau credu.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio…
Clwb Criced Glyn Ebwy. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael a’r goleuadau yn gwbl anaddas ar gyfer peiriant oedd yn gallu taflu pêl criced ar gyflymder o 93 milltir yr awr. Talodd yr NCRG am system boeler newydd a gofynnwyd am gymorth mentor Adfywio Cymru. Cynhaliwyd sawl cyfarfod gyda’r grŵp cymunedol oedd wedi trosfeddiannu’r ased gan yr awdurdod lleol. Cyflawnwyd arolwg manwl a’r her oedd rhoi 1000 lwcs (cynyddiad o 350 lwcs) er mwyn sicrhau grant Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB). Manylwyd cyfres o fesuriadau ar gyfer Manyldeb Technegol gan gynnwys arwyneb chwarae newydd, rhwydi tensiwn, ffenestri ynni effeithlon newydd a system goleuadau LED gwbl awtomataidd gyda rheolaeth bell i weddu’r amodau chwarae i’r chwaraewyr proffesiynol neu amatur. Mae Clwb Criced Glyn Ebwy bellach yn llawn misoedd o flaen llaw gyda thimau yn llogi mor bell â Gwlad yr Haf. Mae ysgolion plant, colegau a’r anabl yn gallu ei ddefnyddio. Fel arall bydda’r adeilad wedi cael ei gau a’i fandaleiddio gyda phroblemau cymdeithasol cysylltiol. Yn lle hynny, mewn ardal o amddifadedd economaidd cymdeithasol honedig, mae’n ganolfan ffyniannus, yr unig gyfleuster tebyg ydy’r Ganolfan Criced Cenedlaethol yng Ngerddi Soffia Caerdydd.
Oherwydd y llwyddiant hwn mae’r awdurdod lleol wedi gofyn i’r ganolfan gymryd asedau eraill. Rwyf bellach yn cynnal arolwg ynni llawn i grwpiau cymunedol eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Mae’n dangos bod pobl leol sydd yn wirfoddolwyr yn gallu deall a chofleidio effeithiolrwydd ynni a gweithredu ar newid hinsawdd. Gallant gynnal ased cymunedol cynaliadwy a ffyniannus sydd yn berchen i’r gymuned ar gyfer y gymuned.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Grwpiau cymunedol yn cofleidio newid hinsawdd, effeithiolrwydd ynni a chynhyrchiad ynni cymunedol ac yn cynnal asedau cymunedol ffyniannus. Er mwyn cyflawni cynaliadwyedd am oes mae angen cyfuno ymwybyddiaeth, arbenigedd ac adnoddau technegol y sector breifat a chraffter busnes ac ysbryd y gymuned gydag ymarferiadau cymdeithasol a moesol cyson.
Mae’r gymuned yn berchen ac yn cynnal y prosiectau heb gontractwyr allanol o ‘tu allan’ i’r gymuned yn ymgymryd y gwaith prosiect mawr, heb unrhyw ddiddordeb yn yr ardal leol nac yr economi cylchol, heb unrhyw addysg, hyfforddiant, dysgu sgiliau na chyflogaeth i bobl leol.
Credaf gellir cyflawni hyn wrth gwblhau prosiectau gyda phobl leol yn ei chanol hi, yn rhoi tystiolaeth a hunangred ac yn arddangos yr astudiaethau achos yma i ddangos yr hyn gellir ei gyflawni.
Comments are closed.