Rwyf yn rhedeg Asesiadau Ynni Greenfeet ym Mhenarth. Rwyf wedi bod yn rhan o Rounded Developments Enterprises (RDE) yn wirfoddol dros y degawd diwethaf. Ein bwriad yn Greenfeet ydy darparu gofynion Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) domestig ac annomestig, ac rydym yn angerddol am ansawdd y gwasanaeth cynigir.
Rydym yn defnyddio’r cydweithrediad rhwng RDE a Greenfeet i alluogi grwpiau Adfywio Cymru i gael mynediad i’r system EPC swyddogol. Yn gyffredinol rydym yn creu Graddau Perfformiad Ynni i grwpiau fel bod ganddynt wybodaeth a chanllaw cyfoes swyddogol ar gyfer eu hadeilad cymunedol. Ond rydym yn cydnabod bod yr EPC yn arf di-awch, felly mae ein partneriaeth gyda RDE yn allweddol bwysig. Mae Peter Draper yn dehongli’r data a’r awgrymiadau ac yn asesu’r risgiau cyn llunio’r adroddiad terfynol. Os yw grwpiau angen i’r EPC gael ei gyflwyno’n swyddogol yna mae posib trefnu hyn.
Cychwynnais gydag Adfywio Cymru gan fod Peter wedi gofyn i mi helpu gyda chwpl o grwpiau cymunedol gan nad oeddent yn gallu fforddio cyflawni’r EPC’s angenrheidiol ar gyfer y cynllun Tariff Bwydo i Mewn.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio…
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dan McCallum yn Egni i gyflwyno’r EPC’s ar gyfer canolfannau cymunedol oedd â diddordeb cael araeau PV ar eu hadeilad. Roedd y Tariff Bwydo i Mewn yn mynnu ar hyn i sicrhau bod yr adeiladau yn addas. Canlyniad hyn yw bod y trefniant cymuned yn rhannu Egni yn arwain at filiau ynni llai i’r mentrau cymunedol.
Roedd canolfan cymunedol Cathays angen EPC i hawlio’r Tariff Bwydo i Mewn ar gyfer ei system PV. Cyflawnwyd y gwaith EPC ar eu rhan, elfen hanfodol i’r canolfan cymunedol wrth dderbyn y Tariff Bwydo i Mewn a gallu gosod y system ynni adnewyddadwy a buddio ohono.
Comments are closed.