Wedi fy ngeni a’m magu yn Nyffryn Clwyd gyda chefndir mewn Ecoleg ac angerdd am arddio. Rwyf wedi ymrwymo i annog parch am y byd naturiol a’r deallusrwydd sylfaenol bod natur a systemau naturiol yn tanategu popeth yr ydym ni, a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Rwy’n swyddog cymunedol ac addysg i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru (YBGGC) ers 2010. Rydym wedi ymrwymo i’n gweledigaeth o “Ogledd Cymru sydd yn llawn bywyd gwyllt sydd yn cael ei werthfawrogi gan bawb”. Rydym yn gwneud hyn wrth greu mannau gwell i’r bywyd gwyllt, ac wrth gysylltu bywyd gwyllt a phobl. Ers dros ddegawd bellach, mae YBGGC wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o arddio bywyd gwyllt, gyda’r bwriad o gysylltu cymunedau gyda’r byd naturiol wrth gysylltu gydag ef yn uniongyrchol, yn creu cynefin, gwyddoniaeth dinesydd, tyfu bwyd neu hyffordd a chyflwyno addysg awyr agored. Mae garddio ar gyfer bywyd gwyllt, a phopeth sydd ynghlwm â hynny, yn mynd law yn llaw gydag amcanion Adfywio Cymru. Dysgu sut i fyw yn fwy cynaliadwy yw’r ffordd gorau i leihau ein heffaith ar y byd a lleihau graddfa ac effaith newid hinsawdd.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
- Roedd grŵp cymunedol eisiau sefydlu gardd cegin ar blot y tu ôl i gaffi cymunedol sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Rydym yn cysylltu gyda’r ganolfan ieuenctid lleol i sefydlu prosiect tyfu fydda’n darparu’r caffi gyda ffrwythau a llysiau ffres. Dyluniwyd y llain a chafwyd arian gan y loteri genedlaethol. Roedd y gymuned yn rhan o’r cynlluniad ac roedd grwpiau ieuenctid yn gweithio’n galed i blannu’r ardd yn ystod un tymor gwyliau haf. Yr eisin ar ben y deisen wrth ddychwelyd i’r caffi yn yr haf canlynol oedd cael ein cyflwyno gyda phlât o gynnyrch wedi’i dyfu gartref, gyda phwdin o fefus ffres o’r ardd… bendigedig!
- Roedd grŵp cymunedol sefydledig eisiau defnyddio gardd yr eglwys i dyfu bwyd cymunedol i ddiogelu dyfodol bwyd lleol. Gyda phroses cydweithredol dyluniwyd y safle a chafwyd eu hariannu’n lleol i sefydlu perllan gymunedol, llain i dyfu cnau, gwenynfa a dôl blodau gwyllt. Diogelwyd arian gan ffynonellau eraill i brynu offer i’r grŵp gael cynnal y safle ac i ddarparu panel dehongli addysgiadol.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae cymunedau yn creu economi leol wedi sefydlu ar gynhyrchu lleol ar raddfa fach. Bydd pobl yn masnachu mewn sgiliau, llafur a chynhyrchu drwy’r cydweithfeydd cymunedol sydd wedi cymryd lle’r mwyafrif o’r sector breifat. Bydd cynlluniau cymorthdaledig i ail-greu ardaloedd gwyllt ar dir amaethyddol gynt. Bydd ffermwyr yn cael eu talu i drapio carbon i helpu sefydlogi newid hinsawdd. Bydd cynefin bioamrywiol newydd yn cael ei greu, gyda choridorau bywyd gwyllt yn cysylltu cynefinoedd dros dirwedd byw, yn caniatáu symudiad bywyd gwyllt dirwystr, yn dianc oddi wrth effaith newid hinsawdd.
Bydd plant yn derbyn addysg awyr agored 2 allan o 5 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd gan fod yr amgylchedd yn cael ei ystyried yn ganolog i’r maes llafur, yn gwneud y defnydd gorau o gaeau chwarae’r ysgol, gerddi gwyllt a choetir cymunedol lleol wedi’u plannu ledled y wlad yn 2020.
Comments are closed.