Sefydlwyd Menter Môn yn 1995 fel cwmni nid er elw yn darparu datrysiadau i’r heriau sydd yn wynebu cefn gwlad Cymru. Mae Menter Môn yn trosglwyddo gwasanaethau yn Ynys Môn a Gwynedd ac yn arwain ar brosiectau partneriaeth eraill yng Ngogledd Cymru. Dros y 23 mlynedd diwethaf maent wedi bod yn gweithio gyda busnesau, cymunedau ac unigolion i drosglwyddo prosiectau ystyrlon, wedi’i ariannu gan sawl ffynhonnell (yr UE yn bennaf) sydd yn harneisio eu cryfderau ac yn cyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Rydym yn cofleidio ac yn adnabod gwerth ein hadnoddau ac eisiau ychwanegu gwerth er budd y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys ein hamgylchedd naturiol ac adeiladol, ein treftadaeth ddiwylliannol, ein sectorau amaeth a bwyd ac, yn bwysicach fyth, ein pobl.
Yn bresennol, rwyf yn gydlynydd ar gyfer y rhaglenni Atebion Mentrus ac Adfywio Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n gyson gyda mentrau cymdeithasol newydd a phresennol, ar brosiectau treftadaeth a diwylliannol yn bennaf. Ond o ganlyn y rhaglen LEADER mae yna symudiad sylweddol ar Ynys Môn yn ymwneud â Newid Hinsawdd gyda nifer o gymunedau yn edrych ar ddatrysiadau posib, o Gartrefi Carbon Isel i brosiect Tyfu Gyda Fi. Nid oes gan y grwpiau yma arbenigedd yn bresennol a byddant yn buddio o gefnogaeth mentor a’r rhwydweithiau gall Adfywio ei gynnig. Mae hyn hefyd yn helpu Menter Môn i gyflwyno negeseuon cryf i newid calonnau a meddyliau a pharhau i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau, busnesau a phobl.
Beth yw atyniad y math yma o waith, a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu yn y gorffennol?
Rwyf yn gydlynydd Atebion Mentrus ac mae’r rhaglen yn gweithio’n dda ar Ynys Môn. Mae’r grwpiau rwyf yn gweithio â nhw wedi dechrau edrych ar newid hinsawdd, sut i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Mae gennym grwpiau yn edrych ar drafnidiaeth gymunedol gan ddefnyddio bysiau trydan, prosiect peilot LEADER yn edrych ar gartrefi Carbon isel, arbed ynni a gostwng gwastraff. Rydym wedi gweithio gyda grŵp sydd mewn partneriaeth â EE a Scottish Power a phrosiect rhydd o blastig ym Miwmares. Mae’n bosib prynu’r arbenigedd i mewn ar hyn o bryd, ond dyw hyn ddim yn gynaliadwy. Hoffai Menter Môn sicrhau bod pobl yn deall newid hinsawdd a’r cyfleoedd a’r budd gallai gyflwyno.
Mae’n wir mai megis dechrau mae Ynys Môn, mae angen mentoriaid ar lawr gwlad, pobl sydd yn gallu mentora grŵp a chyflawni newid fel mae’r rhaglen Atebion Mentrus wedi llwyddo. Mae gen i restr cysylltiadau a gwybodaeth eang o’r ynys. Bydd grwpiau yn cysylltu pan fydd ganddynt syniad neu angen help, ac rwyf wedi annog grwpiau i edrych ar beilot datrysiadau i faterion gan gynnwys sut i leddfu Newid Hinsawdd.
Beth yw eich gweledigaeth o’r ardal rydych chi’n byw ac/neu’n gweithio ynddi yn 2050?
Yn 2050 rwy’n gobeithio y bydd cymunedau wedi deall ac addasu i’r materion newid hinsawdd bresennol a bod yna:
- Leoliadau cyfleusterau ac isadeiledd mwy cadarn – dim problemau band llydan nac TG
- Gofal cymdeithasol gwell – seiliedig ar TG, SMART, llai o afiechydon, datrysiadau symudedd a phroblemau iechyd
- Tirwedd wedi’i adfer ac ailgoedwigo – cynefinoedd naturiol yn cael eu hamddiffyn a’u gwella
- Wedi paratoi yn well ar gyfer trychinebau naturiol bosib – cynlluniau amgylcheddol ar waith
- Bod yn hunanddigonol – yn tyfu a rhannu cynnyrch ein hunain ac edrych ar ‘fwydydd y dyfodol’
- Defnyddio adnoddau naturiol – trafnidiaeth trydan a solar, rhannu trafnidiaeth, beicio, cerdded
Yr unig ffordd i gyrraedd y nod yma ydy cyflwyno effaith newid hinsawdd i bobl. Rhaid deall y problemau o ddifrif, dysgu drwy esiampl ac elwa o’r manteision. Nid oes modd ennill calonnau a meddyliau os nad ydym yn cyflawni gwir fanteision. Bydd gweithio gyda rhaglenni fel Adfywio Cymru yn helpu gyda’r broses yma, wrth godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth gyfoed, dysgu drwy esiampl a rhannu’r wybodaeth yma.
Comments are closed.