Rwyf yn gyd-sylfaenydd y Dean Forest Food Hub a sylfaenydd Hwb Bwyd Tywi, “marchnad ffermwyr ar-lein” sydd yn cysylltu’r defnyddwyr lleol gyda’r cynhyrchwyr bwyd lleol. Hoffwn ymuno’r cynllun mentor Adfywio Cymru gan fod grwpiau cymunedol eraill wedi dangos diddordeb yn ein model o fenter gymdeithasol. Dros y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi datblygu llwyfan ffynhonnell agored ddwyieithog sydd yn gweithio gyda Rhwydwaith Bwyd Agored y DU. Hoffwn roi mwy o amser i alluogi mentrau ‘Hwb Bwyd’ newydd yng Nghymru gan ddefnyddio’r ‘pecyn’ Ffynhonnell Agored yma sydd wedi’i ddylunio a’i brofi.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Ein hamcan ydy lledaenu’r model hwb bwyd ledled Cymru. Mae gennym wefan ffynhonnell agored ddwyieithog sydd yn gweithio ar y cyd â Rhwydwaith Bwyd Agored y DU. Rydym yn gwahodd grwpiau sydd â diddordeb i ymweld â ni ar ein diwrnod pacio wythnosol i gael sgwrs ac i weld sut beth ydy rhedeg hwb bwyd. Ond mae yna brosesau ac elfennau anweladwy i gynnal menter nad oes amser i’w trafod yn y cyfarfodydd byr yma. Felly rydym yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n profiad o redeg Hybiau Bwyd mewn modd mwy cynhwysfawr gyda’r grwpiau sydd yn cysylltu am gymorth.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Byddem wedi creu cymdeithas o Hybiau Bwyd rhwydweithiol yn ein rhanbarth a ledled Cymru. Bydd y model hwb bwyd wedi galluogi adfywiad darpariaeth bwyd lleol, yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr graddfa fach a chanolig i gefnogi a chryfhau economi’r dref neu bentref gydag adnewyddiad a theimlad mwy o leoliad a chysylltiad i’r tir sydd yn ei faethu.
Bydd Hwb Bwyd Tywi wedi’i gysylltu ar hyd y coridor Calon Cymru i Hybiau Bwyd eraill sydd yn defnyddio’r cyswllt rheilffordd i ddosbarthu cynnyrch rhyngddynt. Bydd y coridor Calon Cymru yn dod yn “Gardd Cymru” gyda chynhyrchwyr bwyd graddfa fach i ganolig yn cael eu grymuso i fasnachu eu cynnyrch yn ecwitïol yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol trwy’r model dosbarthu sydd yn berchen ar y gymuned.
Comments are closed.